Beth ydych chi'n ei feddwl am yr ymateb i COVID-19 yng Nghymru - pa effaith gafodd y pandemig arnoch chi?
Ers dechrau pandemig COVID-19 mae llawer wedi newid i ni gyd. Rhannwch eich adborth am eich profiad o bandemig COVID-19.
Gallai hyn fod am unrhyw agwedd o’ch bywyd a gafodd ei effeithio, neu’r effaith ar fywydau'r rhai rydych yn gofalu amdanynt. Er enghraifft, gallai fod yn ymwneud ag iechyd neu ofal cymdeithasol, addysg, gwaith, cartref, arian, cymorth, eich bywyd teuluol neu eich bywyd cymdeithasol.
Bydd eich adborth yn helpu i wneud gwahaniaeth. Byddwn yn rhannu'r hyn rydych chi'n ei ddweud wrthym yn uniongyrchol gydag Ymchwiliad y DU. Mae'n bosib y byddwn hefyd yn rhannu'r hyn rydyn ni'n ei glywed gyda'r GIG, Llywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru sy'n gallu gweithredu i wneud newidiadau ble mae angen.
Bydd eich barn a'ch profiadau yn eu helpu i weld beth mae pobl yn ei feddwl sydd wedi gweithio'n dda a gweithredu i ddysgu o'r pethau hynny ni wnaeth weithio’n dda.