Ymateb i South Wales Argus Parthed: Pobl hŷn yn cael eu derbyn i’r ysbyty yn dioddef o hypothermia oherwydd costau gwresogi
Published on 23 Ionawr 2023 09:43 yh
Meddai Angharad Phillips, Cydlynydd Mentrau Iechyd Age Cymru: “Mae’n peri gofid fod pobl hŷn yn cael eu derbyn i’r ysbyty yn dioddef o hypothermia oherwydd costau gwresogi. Rydyn ni’n deall bod y cyfnod hwn yn anodd i nifer o bobl, ond rydyn ni’n annog pobl hŷn i flaenoriaethu eu hiechyd. Gwnewch yn siŵr fod o leiaf un ystafell yn eich tŷ’n ddigon cynnes i chi eistedd ynddi’n gyffyrddus heb fynd yn sâl.
“Os ydych chi’n poeni am dalu eich biliau, chwiliwch am gyngor er mwyn gwneud yn siŵr eich bod chi’n derbyn eich budd-daliadau a’ch hawliau i gyd. Er enghraifft, nas hawlir gwerth dros £200 miliwn o gredyd pensiwn yn flynyddol yng Nghymru. Hefyd, mae yna fudd-daliadau gaeafol ar gael ar gyfer rhai pobl hŷn. Er enghraifft y Taliad Tanwydd Gaeaf, Taliad Tywydd Oer, Y Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes, a Chynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru. Cysylltwch ag elusennau fel Age Cymru, neu eich cyflenwr tanwydd. Mae’n rhaid i’ch cyflenwr tanwydd gefnogi cwsmeriaid sydd yn agored i niwed.
“Rydyn ni’n cynghori pobl i geisio bwyta o leiaf un pryd cynnes bob dydd, a digon o ddiodydd poeth. Yn ystod tywydd oer iawn gwisgwch ddigon o haenau tenau o ddillad cotwm, hyd yn oed pan ydych chi mewn tu fewn. Ceisiwch symud yn gyson drwy fynd am dro neu wneud gwaith tŷ.
“Yn ystod y pandemig mi wnaeth cymunedau ledled Gwent ddod at ei gilydd i ddarparu cefnogaeth a chysur i’w cymdogion hŷn. Rydyn ni’n gofyn i chi wneud hyn unwaith eto. Os oes gennych chi ffrind, berthynas neu gymydog hŷn, galwch heibio i weld os allwch chi helpu. Efallai bod angen help i glirio dail ac iâ i ffwrdd o’u llwybrau, neu cynigwch fynd allan i gasglu bwyd neu feddyginiaethau.”
diwedd
I gael gwybodaeth am faterion megis budd-daliadau a hawliau gallwch siarad ag un o gynghorwyr arbenigol Age Cymru. Gallwch ddewis siarad Cymraeg neu Saesneg. Ffoniwch 0300 303 44 98 rhwng 9am a 4pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener (codwyd yr un tâl â galwad i rif sydd yn cychwyn gydag 01 neu 02). Bydd galwadau’n cael eu cynnwys mewn unrhyw becyn galwadau llinell dir neu ffôn symudol. Neu gallwch e-bostio advice@agecymru.org.uk <mailto:advice@agecymru.org.uk> neu ewch i www.agecymru.org.uk/spreadthewarmth <http://www.agecymru.org.uk/spreadthewarmth>