Y Nadolig hwn bydd yr anoddaf erioed oherwydd yr argyfwng costau byw, meddai bron i draean o bobl dros 65 oed yng Nghymru
Published on 23 Ionawr 2023 09:27 yh
Mae bron i un ymhob saith yn disgwyl teimlo’n drist, yn unig ac yn angof
Y Nadolig hwn bydd yr anoddaf erioed oherwydd yr argyfwng costau byw, meddai bron i draean o bobl dros 65 oed yng Nghymru. Dyma oedd canfyddiad arolwg barn a gomisiynwyd gan Age Cymru a’i bartneriaid.
Dywedodd bron chwarter o atebwyr eu bod yn gofidio bydd yn rhaid iddynt gwtogi eu gweithgareddau cymdeithasol oherwydd yr argyfwng costau byw. Roedd 13% ychwanegol yn gofidio na fyddant yn medru gweld eu teulu a’u ffrindiau mor aml. Bydd hyn yn arbennig o anodd i bobl sydd wedi gweld eisiau cymdeithasu yn ystod y pandemig, a oedd yn edrych ymlaen at weld ffrindiau a theulu yn ystod yr Ŵyl.
Wrth ateb y cwestiwn ‘Sut fyddwch chi’n teimlo’r Nadolig hwn’? dywedodd un ymhob saith atebwr eu bod yn disgwyl teimlo’n drist, yn unig neu’n angof.
Yn ôl yr atebion, prif achosion unigrwydd oedd: ‘Rydw i’n byw ar fy mhen fy hun’, ‘Does gen i ddim teulu gerllaw’, ‘Does neb yn fy ffonio nac yn ymweld â mi’, a ‘Mae fy nheulu yn brysur a dydw i ddim yn hoffi eu poeni’.
Beth fyddai’n eich helpu dros y Nadolig?
Dywedodd hanner yr atebwyr byddai galwad ffôn wrth ffrind neu anwylyd yn helpu. Dywedodd bron hanner byddai ymweliad wrth rywun yn eu helpu.
Nododd bron i hanner yr atebwyr fyddai digonedd o arian yn eu helpu. Byddai digonedd o arian yn golygu ni fyddai’n rhaid iddynt ofidio. Dywedodd bron draean fyddai gweithgaredd cymdeithasol megis ymweld â thafarn, sinema neu fynd allan i gael pryd o fwyd yn helpu. Dywedodd un rhan o bump eu bod nhw eisiau cyngor cyllidol a chefnogaeth gan y Llywodraeth.
Dywedodd 40% o atebwyr eu bod nhw’n dibynnu ar y teledu a’r radio i gadw cwmni iddynt. Roedd 17% yn ymweld ag archfarchnadoedd er mwyn osgoi teimlo’n unig.
Meddai Victoria Lloyd, prif weithredwr Age Cymru: “Mae’r gaeaf yn medru bod yn gyfnod anodd i ni gyd. Eleni, mae’r argyfwng costau byw ar ôl effeithiau’r pandemig yn golygu bydd y gaeaf hwn yn arbennig o anodd. Mae tlodi, unigedd ac unigrwydd byth a hefyd yn heriau i nifer o bobl hŷn yng Nghymru. Gall yr heriau hyn fod yn frawychus yn ystod cyfnod y Nadolig.
“Er bod bywyd yn medru bod yn anodd mae cyngor, help a chefnogaeth ar gael. Efallai eich bod chi, neu berson hŷn rydych chi’n ei nabod, yn cael trafferth i ymdopi yn ystod y gaeaf hwn. Peidiwch â dioddef yn dawel; cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau i helpu.
“Bu cymunedau ledled Cymru yn darparu cefnogaeth i bobl hŷn yn ystod y pandemig. Rydyn ni’n eich annog i wneud hyn unwaith eto. Ffoniwch aelod hŷn o’r teulu, neu ewch i ymweld â nhw. Ewch i ymweld â ffrind neu gymydog hŷn yn ystod yr Ŵyl i sgwrsio a rhannu tarten Nadolig. Dewch i wirfoddoli gyda ni fel rhan o’n gwasanaeth gyfeillio dros y ffôn, Ffrind Mewn Angen. Neu gallech chi wneud rhodd i Age Cymru er mwyn i ni fedru parhau i ddarparu cyngor ac arbenigedd i bobl hŷn.”
Helpwch ni i helpu pobl hŷn yng Nghymru
Cafodd canlyniad yr arolwg ei gyhoeddi i gyd-fynd â lansiad Apêl Codi Arian yr elusen yn ystod y Nadolig, a oedd yn cefnogi Cyngor Age Cymru. Dyma wasanaeth yr elusen wnaeth helpu pobl hŷn i hawlio mwy na £7.5 miliwn o bunnoedd mewn budd-daliadau a hawliau llynedd.
Bydd yr ymgyrch hefyd yn cefnogi gwasanaeth Ffrind Mewn Angen yr elusen sy'n paru person unig hŷn gyda gwirfoddolwr ar gyfer galwad gyfeillgarwch wythnosol. Y llynedd, cafodd dros 9,100 o alwadau cyfeillgarwch eu gwneud yng Nghymru fel rhan o'r gwasanaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am sut y gallwch ein cefnogi neu i gyfrannu ewch i agecymru.org.uk/brighter neu ffoniwch 029 2043 1555.
Diwedd.
Nodiadau i olygyddion
Cynhaliodd Yonder sampl ar-lein o 2,477 o oedolion yn y DU 65+ rhwng 6-30 Hydref 2022. Mae data wedi'i bwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth y DU. Mae targedau ar gyfer cwotâu a phwysau yn cael eu cymryd o arolwg PAMCO, arolwg tebygolrwydd ar hap a gynhaliwyd yn flynyddol gyda 35,000 o oedolion. Mae Yonder yn un o sylfaenwyr Cyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Am wybodaeth ychwanegol gweler http://www.britishpollingcouncil.org/
Arolwg Nadolig – 65+ oed Cymru'n unig. Gwaith maes ar-lein a thros y ffôn: 6 – 30 Hydref 2022. 155 unigolyn.
Cyfrifwyd niferoedd amcangyfrifedig yr ymatebwyr yng Nghymru drwy ddefnyddio canrannau o’r boblogaeth gyfan sydd dros 65 oed yng Nghymru. Yn ôl cyfrifiad 2021 y rhif yw 662,000