Sioe deithiol Cynghrair Henoed Cymru’n ymweld â Wrecsam ym mis Mehefin
Published on 16 Mehefin 2024 06:49 yh
Cyngor a chefnogaeth i bobl hŷn yn ystod cyfnod heriol
Ty Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam
26 Mehefin 2024 – 10.30am tan 2pm
Mae Cynghrair Henoed Cymru, casgliad o elusennau sy'n darparu gwybodaeth a gwasanaethau i bobl hŷn, yn cynnal digwyddiad sioe deithiol yn Nhŷ Pawb yn Stryd y Farchnad, Wrecsam, y mis hwn.
Bydd y sioe deithiol, sy'n rhad ac am ddim, yn darparu gwybodaeth a chymorth ar ystod eang o faterion sy'n berthnasol i bobl hŷn gan gynnwys arthritis, strôc, a gofalu am berson sy'n byw gyda dementia.
Bydd gwirfoddolwyr sy'n gysylltiedig â Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw yn cynnig gwiriadau yn y fan a'r lle am golli clyw a tinitws.
Bydd Prime Cymru, y sefydliad sydd â'r dasg o helpu pobl hŷn i ddychwelyd i’r gweithle neu hyfforddiant â thâl, yn arbennig o bwysig i'r rhai sydd am gynyddu eu hincwm yn ystod argyfwng costau byw.
Meddai Chris Williams o'r Gynghrair "Rydym yn gwybod bod pobl hŷn yng Nghymru yn wynebu heriau anodd iawn ar hyn o bryd wrth iddynt fynd i'r afael ag amseroedd aros y GIG, oedi hir cyn cael mynediad at ofal cymdeithasol, a'r argyfwng costau byw.
"Ac rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw wynebu'r materion hyn yn ogystal â heriau cyffredinol heneiddio fel arthritis, colli clyw a chyfrifoldebau gofalu.
"Fodd bynnag, hoffwn sicrhau pobl hŷn nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain a bod llawer o sefydliadau yn barod i gynnig eu cefnogaeth. Felly, byddwn yn annog unrhyw berson hŷn yn yr ardal, neu eu ffrindiau a'u perthnasau, i ddod i'r sioe deithiol a cheisio'r gefnogaeth sydd ei angen er mwyn i bobl fedru heneiddio’n gyfforddus."
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch Chris Williams ar 029 20431 548 neu e-bostiwch chris.williams@agecymru.org.uk.
Diwedd