Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Sioe deithiol Cynghrair Henoed Cymru yn ymweld ag Abertawe ym mis Gorffennaf

Published on 04 Gorffennaf 2024 04:34 yh

Cyngor a chefnogaeth i bobl hŷn yn ystod cyfnod heriol

Rooftop, Theatr y Grand Abertawe, Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ

17 Gorffennaf 2024 – 10.30am tan 2pm

Mae Cynghrair Henoed Cymru, casgliad o elusennau sy'n darparu gwybodaeth a gwasanaethau i bobl hŷn, yn cynnal digwyddiad sioe deithiol yn y Rooftop, Theatr y Grand Abertawe ar ddydd Mercher 17 Gorffennaf.

Bydd y sioe deithiol, sy'n rhad ac am ddim, yn darparu gwybodaeth a chymorth ar ystod eang o faterion sy'n berthnasol i bobl hŷn gan gynnwys arthritis, strôc, a gofalu am berson sy'n byw gyda dementia.

Meddai Chris Williams o'r Gynghrair "Rydym yn gwybod bod pobl hŷn yng Nghymru yn wynebu heriau anodd iawn ar hyn o bryd wrth iddynt fynd i'r afael ag amseroedd aros y GIG, oedi hir cyn cael mynediad at ofal cymdeithasol, a'r argyfwng costau byw.

"Ac rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw wynebu'r materion hyn yn ogystal â’r heriau arferol sy’n gysylltiedig ag heneiddio fel arthritis, colli clyw a chyfrifoldebau gofalu.

"Fodd bynnag, hoffwn sicrhau pobl hŷn nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain a bod llawer o sefydliadau yn barod i gynnig eu cefnogaeth. Felly, byddwn yn annog unrhyw berson hŷn yn yr ardal, neu eu ffrindiau a'u perthnasau, i ddod i'r sioe deithiol a dysgu am y gefnogaeth sydd ar gael."

Am fwy o wybodaeth ffoniwch Chris Williams ar 029 20431 548 neu e-bostiwch christopher.williams@agecymru.org.uk.  

Diwedd

 Nodiadau i Olygyddion

 Rhestr o arddangoswyr:

Action for Elders

Age Connect Castell Nedd a Phort Talbot

Age Cymru Gorllewin Morgannwg

Gofal A Thrwsio Bae’r Gorllewin

Deafblind UK

Dementia Hwb - Abertawe

Hourglass

Cymdeithas MS

Confensiwn Pensiynwyr Cenedlaethol Cymru

Parkinsons

Prime Cymru

RNIB

Y Gymdeithas Strôc

Versus Arthritis

 

Last updated: Gor 04 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top