Rhybudd i bobl hŷn i fod yn wyliadwrus o fasnachwyr twyllodrus sy’n cymryd mantais o’r newid i’r digidol
Published on 05 Ebrill 2024 01:29 yh
Mae llinellau tir yng Nghymru yn newid i’r digidol
Wrth i’r diwydiant ffonau uwchraddio o linellau analog i linellau digidol, mae Age Cymru’n rhybuddio pobl hŷn i fod yn wyliadwrus o fasnachwyr twyllodrus sy’n cymryd mantais o’r newid.
Mae’r newid yn golygu bydd galwadau yn ddibynnol ar linell fand eang yn hytrach na’r hen rwydwaith analog, sy’n dod yn fwyfwy annibynnol.
Mae’r elusen yn dweud y bydd y rhan fwyaf o gwsmeriaid yn newid o un llinell i’r llall am ddim, a ni fydd angen cychwyn ar unrhyw waith yn eu cartrefi. Os bydd angen cymorth ychwanegol ar gwsmeriaid wrth sefydlu’r system newydd, bydd eu darparwr ffôn yn cysylltu â nhw.
Felly, mae Age Cymru'n gofyn i chi fod yn ofalus. Os bydd rhywun yn cynnig dod i’r tŷ i wneud gwaith sy’n gysylltiedig â llinellau ffôn ac yn gofyn am arian, yna mae’n debygol eu bod yn ceisio'ch twyllo neu eich sgamio. Ewch ati’n syth i gysylltu ag Action Fraud ar 0300 123 2040.
Gallwch gysylltu gyda’ch darparwr ffôn i holi pa waith sy’n cael ei wneud yn eich ardal. Ond os ydych chi’n teimlo bod rhywun yn eich bygwth, neu fod masnachwr twyllodrus yn ceisio eich twyllo, ffoniwch yr heddlu’n syth.
Mae Prif Weithredwraig Age Cymru, Victoria Lloyd, yn dweud: "Trueni bod yn rhaid i ni rybuddio pobl hŷn i fod yn wyliadwrus wrth i’r newidiadau hyn ddigwydd. Dylai’r newidiadau fod yn gwella darpariaeth y gwasanaeth ffôn.
"Rydyn ni’n deall y bydd sain yn gliriach gyda’r llinellau ffôn newydd, a fydd yn help mawr i bobl sy’n drwm eu clyw. Bydd yna gyfleuster a fydd yn caniatáu tri ffôn gwahanol i gymryd rhan mewn galwad gan alluogi pobl i gynnal sgyrsiau mewn grŵp bach gyda ffrindiau a theulu. Y gobaith yw bydd hyn yn sicrhau bod llai o bobl yn teimlo’n unig. Hefyd, bydd y llinellau newydd yn diogelu pobl rhag galwadau marchnata a galwadau niwsans diangen yn well na’r llinellau presennol.
"Fodd bynnag, o ystyried ein profiadau gyda’r ffordd mae masnachwyr twyllodrus yn gweithio, rydym yn awyddus i gefnogi pobl hŷn i osgoi sgamiau. Mae twyll o’r fath yn medru bod yn gostus ac maent yn niweidio pobl ar lefel emosiynol; manteisiwch ar y gwasanaethau ffôn newydd heb unrhyw ofnau diangen."
Deall y broses o newid i’r digidol
BT yw cyflenwr y rhan fwyaf o linellau tir y DU, a bydd y cwmni yn cynnal dwsinau o ddigwyddiadau ledled y wlad i gynghori cwsmeriaid wyneb yn wyneb am y newid. Efallai y bydd darparwyr ffonau eraill hefyd yn trefnu digwyddiadau tebyg.
Mae Age Cymru yn deall mai oll bydd newid i’r digidol yn ei olygu i’r rhan fwyaf o gwsmeriaid yw cysylltu ffôn eich cartref â llwybrydd yn hytrach na gyda'r soced ffôn ar y wal. Os ydych chi’n gwsmer gyda BT a does gennych chi ddim llwybrydd addas, bydd y cwmni yn anfon un atoch yn rhad ac am ddim.
Ar hyn o bryd, bydd BT yn ysgrifennu at bob cwsmer i'w gwneud yn ymwybodol o'r newidiadau. Byddant hefyd yn cysylltu drachefn gyda’r bobl sy’n barod ac yn gymwys ar gyfer y newid. Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ymdopi gyda’r newid, ni fydd BT yn eich newid chi ar hyn o bryd, a byddant yn darparu cefnogaeth ychwanegol i chi pan ddaw’r amser i newid.
Os ydych chi'n meddwl y bydd y newid yn heriol, neu rydych chi’n ofni eich bod chi’n agored i niwed, neu rydych chi’n defnyddio larwm gofal iechyd sy’n cysylltu â llinell dir, cysylltwch â'ch darparwr ffôn i gael sgwrs gyda nhw.
Os ydych chi’n defnyddio larwm gofal iechyd personol, siaradwch gyda’ch cyflenwyr i wneud yn siŵr bod gennych chi bopeth sydd ei angen arnoch cyn y newid.
Bydd BT yn cysylltu â’r cwsmeriaid sy'n barod ac yn gymwys i newid pedair wythnos cyn y dyddiad er mwyn sicrhau bod ganddynt bopeth sydd ei angen arnynt.
Er mai BT yw'r darparwr gwasanaethau ffôn mwyaf yng Nghymru o bell ffordd, mae’r newidiadau yn effeithio ar y diwydiant cyfan. Mae darparwyr ffôn eraill yn rheoli eu prosesau eu hunain er mwyn paratoi ar gyfer y newid, felly cysylltwch â'ch darparwr i ddysgu sut y bydd y newid yn effeithio arnoch chi.
Ydy sgamiau yn broblem fawr yng Nghymru?
Yn ôl Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau, mae’r bobl hŷn sy’n dioddef sgamiau yn y DU yn colli £1,200 ar gyfartaledd drwy gydol eu hoes.
Mae Partneriaeth Cymru yn Erbyn Sgamiau hefyd yn dyfynnu data Action Fraud sy'n dangos eu bod yn derbyn tua 15,000 o achosion o dwyll o Gymru bob blwyddyn. Fodd bynnag, mae Action Fraud yn credu mai dim ond crib y rhewfryn yw'r ffigur a adroddwyd a bod y nifer go iawn o sgamiau sy’n cael eu cyflawni neu eu ceisio, saith gwaith yn fwy.
Ac yn ôl ymchwil diweddar gan y BBC amcangyfrifir bod y DU yn colli £2,300 pob munud i weithgaredd sydd ynghlwm â sgam twyll.
Pryd bydd BT yn ymweld a’ch ardal?
Ebrill y 3ydd |
Hwlffordd |
Llyfrgell Riverside, ger Sgwar yr Alarch, Hwlffordd SA61 2AN |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 3ydd a’r 4ydd |
Y Fenni |
Sgwar Coch (ger Waterstones), Y Stryd Fawr, Y Fenni NP7 5RY |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 3ydd a’r 4ydd |
Y Drenewydd (SY16 1EJ) |
Morrisons Y Drenewydd, Ffordd Pool, Y Drenewydd SY16 3AH |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 5ed |
Y Trallwng |
Morrisons Y Trallwng, Stryd Berriew, Y Trallwng SY21 7SS |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 5ed a’r 8fed |
Merthyr Tudful |
Co-op Pentrebach, Stryd Brown, Pentrebach, Merthyr Tudful CF48 4BG |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill yr 8fed a’r 9fed |
Dolgellau |
Llyfrgell Dolgellau, Ffordd y Bala, Dolgellau LL40 2YF |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 9fed |
Aberdâr |
Llyfrgell Aberdâr, Stryd Werdd, Aberdâr, CF44 7AG |
10 y bore tan 2 y prynhawn |
Ebrill y 9fed a’r 10fed |
Port Talbot |
Morrisons Port Talbot, Parc Diwydiannol Baglan, Ffordd Christchurch, Port Talbot SA12 7DA |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 10fed |
Caerdydd |
Stadiwm Dinas Caerdydd, Ffordd Leckwith, Caerdydd, CF11 8AZ |
10 y bore tan 3 y prynhawn |
Ebrill y 10fed a’r 11eg |
Porthmadog |
Llyfrgell Porthmadog, Stryd Y Llan, Porthmadog LL49 9HX |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill yr 11eg |
Casnewydd |
Llyfrgell Ganolog Casnewydd, Sgwâr John Frost, Casnewydd NP20 1PA |
10 y bore tan 2 y prynhawn |
Ebrill yr 11eg a’r 12fed |
Abertawe |
Canolfan Arddio Dobbies Abertawe, Ffordd Siemens, Bon-y-maen, Abertawe SA7 9FT |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 15ed a’r 16eg |
Llanelli |
Morrisons Llanelli, Parc Manwerthu Pemberton, Cylchfan Trostre, Llanelli SA14 9DR |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 15ed a’r 16eg |
Caernarfon |
Morrisons Caernarfon, Ffordd Y Gogledd, Caernarfon LL55 1BA |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill yr 17eg |
Dinbych |
Llyfrgell Dinbych, Sgwâr Hall, Dinbych, LL16 3NU |
10 y bore tan 2 y prynhawn |
Ebrill yr 17eg a’r 18ed |
Caerfyrddin |
Canolfan Arddio Caerfyrddin, Bryn y Myrtwydd, Pensarn, Caerfyrddin SA31 2NG |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill yr 17eg a’r 18fed |
Caergybi |
Morrisons Caergybi, Penrhos, Caergybi LL65 2ZZ |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 18fed |
Wrecsam |
Tŷ Pawb, Stryd y Farchnad, Wrecsam LL13 8BB |
10 y bore tan 3 y prynhawn |
Ebrill y 19eg |
Aberystwyth |
Llyfrgell Aberystwyth, Neuadd y Dref, Canolfan Alun R. Edwards Queen's Square, Aberystwyth SY23 2EB |
10 y bore tan 2 y prynhawn |
Ebrill y 19eg a’r 22ain |
Rhydaman |
Llyfrgell Rhydaman, 3 Ffordd y Gwynt, Rhydaman SA18 3DN |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill yr 22ain a’r 23ain |
Llanrwst |
Co-op Llanrwst, Stryd Plough, Conwy LL26 0AG |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 23ain a’r 24ain |
Doc Penfro |
Canolfan Ddysgu Cymunedol Doc Penfro, Sgwâr Albion, Doc Penfro SA72 6XF |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 24ain |
Bro Ogwr |
Llyfrgell Bro Ogwr, Canolfan Bywyd Cwm Ogwr, Cwrt Gwalia, CF32 7AJ |
10 y bore tan 2 y prynhawn
|
Ebrill y 24ain a’r 25ain |
Bae Colwyn |
Canolfan Siopa Bayview (tu allan i Costa), Ffordd Sea View, Bae Colwyn LL29 8DG |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 25ain a’r 26ain |
Aberteifi |
Llyfrgell Aberteifi, Stryd Morgan, Aberteifi SA43 1DG |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 26ain a’r 29ain |
Prestatyn |
Parc Siopa Prestatyn (ger Tesco), Ffordd Llys Nant, Prestatyn LL19 9BJ |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 29ain |
Llanbedr Pont Steffan |
Co-op Llanbedr Pont Steffan, Stryd y Bont Isaf, Llanbedr Pont Steffan SA48 7AF |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 30ain |
Llandrindod |
Llandrindod, Y Gwalia, Ffordd Ithon, Llandrindod LD1 6AA |
10 y bore tan 2 y prynhawn |
Ebrill y 30ain |
Aberhonddu |
Morrisons Aberhonddu, Stryd Free, Aberhonddu LD3 7SE |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Ebrill y 30ain |
Yr Wyddgrug |
Llyfrgell yr Wyddgrug, Ffordd Earl, Yr Wyddgrug CH7 1AP |
10 y bore tan 4 y prynhawn |
Os hoffech chi gael mwy o wybodaeth, ewch at www.agecymru.org.uk/digital-switchover neu ffoniwch Age Cymru ar y rhif 029 2043 1555.
Diwedd.