Gŵyl Gwanwyn 2023: Dathlu sut gall byd natur ysbrydoli creadigrwydd ymhlith pobl hŷn
Published on 21 Ebrill 2023 03:30 yh
Gwaith celf yn addurno ffenestri Cymru gyda delweddau o fyd natur…
Mae Age Cymru’n cynnal eu Gŵyl Gwanwyn flynyddol eleni eto. Yn 2023, rydyn ni’n dathlu creadigrwydd byd natur, a sut mae creadigrwydd yn medru bod yn rhan o fywyd pob dydd pobl hŷn.
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae nifer ohonom wedi bod yn gwerthfawrogi byd natur wrth i ni geisio ymdopi gyda heriau’r pandemig. Rydyn ni wedi bod yn ymweld â pharciau, mynyddoedd a thraethau i fwynhau bod yng nghanol byd natur. Mae’n wir fod bod yn agos at fyd natur a threulio amser yng nghanol byd natur yn medru cael effaith gadarnhaol ar ein llesiant corfforol a meddyliol.
Felly, mae’r elusen yn awyddus i ddathlu sut mae natur yn ein hysbrydoli ni i fod yn greadigol. Mae byd natur yn medru ein hysbrydoli ni i gynllunio gerddi, tyfu mynawyd y bugail, coginio bwyd rydyn ni wedi ei dyfu ein hun, creu darn o waith celf gan ddefnyddio elfennau o fyd natur, a llawer, llawer mwy!
Meddai Kelly Barr, Cydlynydd Gwyl Gwanwyn: “Os cofiwch chi am y negeseuon cefnogol ar gyfer gweithwyr y gwasanaeth iechyd yn ystod y pandemig, yn yr un modd rydyn ni eisiau defnyddio byd natur i addurno ffenestri Cymru. Wrth gwrs bydden ni’n dwli gweld pob math o waith celf sydd wedi cael ei ysbrydoli gan fyd natur, ond gall bobl ddewis unrhyw ffordd yr hoffent i arddangos sut mae byd natur wedi eu hysbrydoli.”
“Efallai bydd rhai pobl eisiau bod yn greadigol drwy addurno sied yng ngwaelod yr ardd, neu gynllunio eu gerddi neu ardd gymunedol, neu drwy greu darnau gwahanol o gelf. Rydyn ni’n awyddus i weld a chlywed am unrhyw beth sydd yn rhoi cyfle i bobl i arddangos eu sgiliau creadigol i’r gymuned gyfan.”
I gael Pecyn Llwybr Celf eich hun, e-bostiwch gwanwyn@agecymru.org.uk neu ffoniwch 029 2043 1576. agecymru.org.uk/latestnews
Diwedd