Galwadau helaeth am gefnogaeth ychwanegol er mwyn helpu pobl hŷn i ffynnu yn y gweithle.
Published on 08 Mawrth 2023 03:06 yh
Sbotolau ar gyflogaeth a phobl hŷn – Senedd Cymru, Caerdydd, 31 Ionawr 2023
Ffotograff: Gweinidog yr Economi Vaughan Gething AS yn areithio yn ystod y digwydd
Mae angen cefnogi pobl hŷn sydd yn dymuno dychwelyd i’r gweithle, neu barhau i weithio, i gymryd mantais o’u sgiliau, eu talentau, a’u gwybodaeth. Dyna oedd neges sylfaenol siaradwyr mewn digwyddiad a oedd yn ffocysu ar gyflogaeth a phobl hŷn.
Cynhaliwyd y digwyddiad yn Senedd Cymru, Bae Caerdydd. Clywodd y gynulleidfa bod pobl hŷn yn aml yn wynebu rhwystrau wrth geisio cyflogaeth a pharhau i weithio. Roedd y rhwystrau’n cynnwys diffyg opsiynau ar gyfer gweithio’n hyblyg. Pan maen nhw’n derbyn y gefnogaeth sydd ei angen arnynt, mae pobl hŷn yn medru ffynnu yn y gweithle.
Roedd siaradwyr yn cytuno bod yr argyfwng costau byw yn golygu ei fod yn bwysicach nag erioed i alluogi pobl hŷn i ffynnu yn y gweithle er mwyn iddynt ddod yn fwy gwydn o ran arian, ac iddynt fedru datblygu ymddeoliad yn fwy sefydlog o ran arian.
Clywodd y gynulleidfa gallai pobl hŷn chwarae rhan sylweddol wrth fynd i’r afael â phrinder sgiliau mewn diwydiannau allweddol fel logisteg, lletygarwch, manwerthu a’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol. Yn ei dro bydd hyn yn helpu i adfer yr economi wedi sgil effeithiau’r pandemig.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, “Fel rhan o’n Cenhadaeth Economaidd, rydyn ni’n gweithio’n galed i leihau’r bwlch sgiliau, cefnogi swyddi gwell a mynd i’r afael â thlodi. Mae ein Cynllun ar gyfer Sgiliau a Chyflogaeth yn blaenoriaethu’r bobl sydd angen help fwyaf. Mae hyn yn cynnwys cefnogi pobl hŷn i barhau i weithio, a phobl sydd yn ceisio cyrraedd y farchnad lafur er mwyn dod o hyd i gyflogaeth.
“Mae cefnogi gweithwyr hŷn i barhau i weithio yn cynnig ffynhonnell werthfawr o dalent i gyflogwyr. Mae’n gatalydd i greu gweithle mwy cynhwysol yn gyffredinol. Dyna pam rydyn ni’n ariannu nifer o fentrau er mwyn cefnogi pobl hŷn - rhaglenni i’w helpu i ailhyfforddi a datblygu sgiliau newydd, cefnogaeth i’w helpu i fynd yn ôl i’r gwaith wedi cyfnod o afiechyd.
“Rydyn ni’n gweithio’n galed i gefnogi cyflogwyr i wella’r ffordd maent yn denu, rheoli a datblygu pobl wrth iddynt fynd yn hŷn. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i dechnoleg barhau i newid yn gyson. Rydyn ni wedi ehangu’r system o ddysgu hyblyg a phersonol er mwyn datblygu sgiliau y gellir eu haddasu er mwyn cynyddu hydwythedd y gweithlu, ac i bawb sydd angen help i wneud cynnydd, gwella eu sgiliau, dod o hyd i swydd newydd neu ailhyfforddi.
Gan ffocysu ar elfen hawliau dynol gweithwyr hŷn, dywedodd Yr Athro John Williams bod gan bawb yr hawl i weithio ac i gael eu trin yn deg. Mae gan bawb yr hawl i gael eu trin ag urddas, heb gael eu diystyru yn y gweithle oherwydd eu hoedran. Pwysleisiodd nodweddion cadarnhaol gweithwyr hŷn, yn cynnwys eu ffyddlondeb, eu dibynadwyedd a’u gwybodaeth. Dywedodd bod angen symud i ffwrdd wrth stereoteipiau negyddol, er enghraifft bod pobl hŷn yn bengaled neu yn tueddi mynd yn sâl.
Dywedodd hefyd bod Brexit yn golygu bod sawl diwydiant allweddol yn y Deyrnas Unedig yn brin o tua 300,000 o weithwyr. Dydy hi felly ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i wastraffu talentau pobl hŷn yn ystod cyfnodau fel hyn.
Dywedodd Mike Hedges AS, sydd yn cadeirio Grŵp Trawsbleidiol Llywodraeth Cymru ar Bobl Hŷn a Heneiddio, bod rhai pobl hŷn yn wynebu rhwystrau wrth fynychu, neu ddatblygu, o fewn y gweithle. Mae hyn yn gwastraffu eu talentau, eu profiadau a’r wybodaeth maen nhw wedi casglu ar hyd y blynyddoedd.
Dadleuodd Dr Martin Hyde, Athro Cysylltiol mewn Gerontoleg ym Mhrifysgol Abertawe, ei fod yn hanfodol nad yw gweithwyr hŷn yn cael eu hanghofio wrth i lywodraethau ar bob lefel ‘Ailgodi’n Gryfach’. Mae hyn yn golygu bod angen deall amodau’r farchnad lafur, a’r heriau sy’n wynebu gweithwyr hŷn.
Wrth ddisgrifio’r achos busnes er mwyn dod yn gyflogwr sydd yn oed gyfeillgar, dywedodd Sue Husband OBE, Cyfarwyddwr Busnes yn y Gymuned (Cymru) bod poblogaeth Cymru’n mynd yn hŷn. Mae tua thraean o’r gweithlu yng Nghymru dros 50 oed, ac mae angen i gyflogwyr ymgysylltu gyda’r garfan werthfawr hon os ydyn nhw eisiau bod yn llwyddiannus nawr ac yn y dyfodol.
Yn yr un modd, dywedodd Glynis Scarico, Uwch Bartner Busnes Adnoddau Dynol yn Legal and General, cyflogwr sydd yn gynhwysol o ran oedran, ei fod yn bwysig creu gweithle lle gall bawb wneud eu gwaith gorau, pwy bynnag yr ydynt. Dywedodd hi fod cynhwysiant wrth wraidd hyn heb eithriad. Dywedodd Vivienne Russell, Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid yn Legal and General, ei bod hi wedi elwa’n bersonol o weithio i sefydliad sy’n oed gyfeillgar.
Wrth agor a chau’r digwyddiad, dywedodd Prif Weithredwr Age Cymru Victoria Lloyd, “Mae angen i ni herio agweddau oedraniaethol a gweithio gyda sefydliadau i’w helpu i gael gwared ar unrhyw rwystrau diangen sydd yn effeithio ar bobl hŷn. Rydyn ni hefyd eisiau i gyflogwyr ddeall sut y gall eu sefydliadau elwa o gael gweithlu cymysg o ran oedran.”
Y Camau Nesaf
Mae Age Cymru yn bwriadu bwrw ati wedi’r digwyddiad hwn er mwyn sicrhau bod materion sydd yn atal pobl hŷn rhag gwneud cyfraniadau pwysig yn eu gwaith yn cael eu nodi a’u symud i ffwrdd, er eu lles nhw a’r economi’n gyffredinol. O ganlyniad i hyn, bydd yr elusen yn datblygu ei gwaith yn y maes hwn drwy:
Gynnal rhaglen o hyfforddiant ymwybyddiaeth oedran ledled Cymru i helpu i sicrhau nad yw cyflogwyr na’u gweithwyr yn ymddwyn mewn ffordd oedraniaethol sydd yn atal gweithwyr hŷn rhag ffynnu yn y gweithle.
Parhau i weithio gyda Busnes yn y Gymuned (Cymru) ar y rhaglen Oedran yn y Gweithle er mwyn hybu pobl dros 50 oed i gynnal adolygiad o’u gyrfa hyd yn hyn, ac i gyflogwyr ddefnyddio pecyn cymorth Oedran yn y Gweithle.
Ymgyrchu i bwysleisio’r buddion gall gweithlu sydd yn gymysg o ran oedran roi i gyflogwyr a’r economi’n gyffredinol.
Hybu pobl dros 50 oed i chwilio am gefnogaeth i fynd yn ôl i’r gwaith.
Pwysleisio’r heriau penodol sydd yn wynebu pobl hŷn sydd eisiau mynd yn ôl i weithio, neu sydd eisiau mwy o gyfrifoldebau yn y gwaith.
Lansio llyfrgell o ddelweddau o bobl hŷn sydd yn byw yng Nghymru fel bod newyddiadurwyr, gweithwyr marchnata proffesiynol ac ymgynghorwyr recriwtio yn medru mynychu delweddau sydd yn adlewyrchu’r genhedlaeth hŷn hon yn ffyddlon.
Diwedd
Mae ffotograffau o’r holl siaradwyr ar gael gan Age Cymru.