Elusennau pobl hŷn yn cynnal digwyddiad Lles y Gaeaf yn Hi Tide ym Mhorthcawl
Published on 03 Ebrill 2024 01:13 yh
Grŵp o hen ddynion yn eistedd o gwmpas bwrdd
Disgrifiad a gynhyrchir yn awtomatig
Bydd Age Cymru Gorllewin Morgannwg, gyda phartneriaid prosiect Age Connects Morgannwg, yn cynnal digwyddiad Lles y Gaeaf HOPE ar ddydd Iau 15 Chwefror rhwng 10am a 2pm yn Hi Tide Inn ym Mhorthcawl.
Mae HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu) yn brosiect partneriaeth sy'n darparu eiriolaeth annibynnol i bobl hŷn (50+) a'u gofalwyr ledled Cymru.
Bydd y digwyddiad yn darparu gwybodaeth a chymorth i helpu pobl sy'n 50 oed neu'n hŷn, a'u gofalwyr, i gadw'n iach yn ystod y gaeaf hwn.
Bydd gwybodaeth am amrywiaeth o faterion gan gynnwys eiriolaeth, hawlio budd-daliadau, tai, diogelwch cymunedol, a sut i leihau eich biliau ynni.
Bydd mwy na dwsin o sefydliadau'n mynychu’r digwyddiad, gan gynnwys Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr, Heddlu De Cymru, Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Pen-y-bont ar Ogwr (BAVO) a Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ac wrth gwrs, bydd lluniaeth am ddim drwy gydol y digwyddiad.
Meddai Connor James, Prif Swyddog Age Cymru Gorllewin Morgannwg, "Rydym yn falch iawn o ddod â dwsinau o sefydliadau ynghyd o bob rhan o'r rhanbarth i arddangos y gefnogaeth sydd ar gael i bobl dros 50 oed, a'u gofalwyr. Rydym yn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwella eu lles nhw, neu les eu hanwyliaid yn ystod y gaeaf i ymuno â ni yn y digwyddiad i gael gwybodaeth a chefnogaeth hanfodol."
Dywedodd Rachel Rowlands, Prif Weithredwr Age Connects Morgannwg "Mae pobl hŷn yn dweud fod cael y cyfle i siarad â rhywun am gostau byw, cyfrifoldebau gofalu, mynediad at gymorth iechyd a gofal cymdeithasol ynghyd â'r cymorth ariannol y gallai fod ganddynt hawl iddo, yn hanfodol bwysig. Rydym yn gwybod, er bod llawer iawn o wybodaeth ar-lein, bod llawer o bobl hŷn yn methu, neu’n dewis peidio defnyddio platfformau ar-lein. Mae digwyddiadau cymunedol yn sicrhau ein bod yn cyrraedd cymaint o bobl â phosibl, mewn lle cyfarwydd ac mewn ffordd sy'n diwallu eu hanghenion."
I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Stuart Ure ar 07943 934177 neu e-bostiwch stuart.ure@agecymru.org.uk
I gael gwybodaeth gyffredinol am brosiect HOPE ffoniwch 029 2043 1555 neu ewch i www.agecymru.org.uk/advocacy