Elusen yn lansio cwrs llesiant sydd wedi cael ei ysbrydoli gan fyd natur ar gyfer pobl dros 50 oed ym Maesteg
Published on 18 Gorffennaf 2023 08:17 yh
Mae ymarferwyr celf fforest yn annog pobl hŷn i fod yn greadigol yng nghefn gwlad
Mae Age Cymru, mewn partneriaeth gyda’r sefydliad celf gymunedol Tanio, wedi trefnu cyfres o sesiynau llesiant ar gyfer pobl dros 50 oed, gan ddefnyddio sgiliau creadigol mewn amgylchedd naturiol.
Bydd y sesiynau yn defnyddio ymarferwyr celf arbenigol er mwyn annog pobl hŷn i ddatblygu eu sgiliau creadigol eu hun, gan ddwyn ysbrydoliaeth o fyd natur.
Mae’r cwrs, sydd yn cychwyn ar ddydd Gwener 11 Awst tan ddiwedd mis Hydref, yn digwydd ym Mharc Llesiant Maesteg. Cynhelir y sesiynau bob dydd Gwener rhwng 10am a 12pm, ac mae croeso i bawb fynychu cymaint o sesiynau ag yr hoffent drwy gydol y tymor.
Ariennir y sesiynau gan Gronfa Cymunedau Cryf Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r sesiynau am ddim a darperir lluniaeth am ddim hefyd. Mae cefnogaeth ar gael ar gyfer unrhyw un sydd ag anghenion trafnidiaeth neu fynediad, ond mae’r trefnwyr wedi ceisio sicrhau bod y sesiynau yn hawdd i’w cyrraedd.
Meddai Lisa Davies, prif weithredwr Tanio, “Rydyn ni wrth ein bodd i weithio mewn partneriaeth ag Age Cymru er mwyn darparu celf fforest ar gyfer pobl hŷn yn ardal Maesteg o fewn Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Mae ein rhaglen Ysgolion Celf Fforest wedi dangos sut gall creadigedd yng nghanol byd natur greu buddion enfawr, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at ddod â phobl at ei gilydd yn ein mannau awyr agored arbennig.”
Meddai Kelly Barr, rheolwr rhaglen celf a chreadigedd Age Cymru, “Rydyn ni wrth ein bodd i fedru cynnig celf fforest ar gyfer pobl hŷn mewn ardal arall ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn ystod yr haf, ac rydyn ni’n gobeithio bydd y sesiynau yn arddangos y buddion o gyfuno byd natur a’r byd tu allan!”
I gael gwybodaeth ychwanegol am y prosiect, yn enwedig am faterion yn ymwneud â thrafnidiaeth a mynediad, ffoniwch 01656 729246 neu e-bostiwch helo@taniocymru.com.
Diwedd