Datganiad Age Cymru ar Ddarpariaeth Toiledau Cyhoeddus
Published on 22 Awst 2024 02:06 yh
Yn ôl ein harolwg blynyddol diweddaraf, mae diffyg toiledau cyhoeddus diogel, hygyrch, sy'n cael eu cynnal a'u cadw’n daclus, yn ei gwneud hi'n anodd i lawer o bobl hŷn fynd allan i gymdeithasu yn eu cymunedau.
Mae diffyg toiledau cyhoeddus addas yn golygu bod llawer o bobl hŷn yn poeni am fethu â chael mynediad at gyfleusterau pan fo angen, ac felly'n cael trafferth mynd o'u cartrefi, gan eu gwneud yn fwyfwy unig ac ynysig.
I eraill, rydym wedi clywed am achosion lle bydd pobl hŷn yn osgoi yfed yn fwriadol er mwyn ceisio gwneud yn siŵr na fydd angen mynd i'r tŷ bach arnynt.
Mae angen i bobl hŷn gael mynediad at doiledau cyhoeddus pan fyddant yn mynd allan, er enghraifft, pan maen nhw'n ymweld â'u stryd fawr er mwyn mynychu apwyntiadau meddygol, siopa am fwyd, talu biliau, neu gymdeithasu.
Gwyddom fod cyllid yn her, ond gallai cynghorau gymryd dull yn fwy arloesol wrth ddarparu toiledau cyhoeddus trwy agor adeiladau cyhoeddus er mwyn i bobl ddefnyddio'r tai bach yno, neu weithio'n agosach gyda busnesau lleol i gynyddu'r ddarpariaeth o doiledau cyhoeddus.
Diwedd.