Bydd sioe deithiol Cynghrair Henoed Cymru’n ymweld â Hwlffordd ym mis Medi
Published on 16 Awst 2024 01:39 yh
Cyngor a chefnogaeth i bobl hŷn yn ystod cyfnodau heriol
HaverHub, Yr Hen Swyddfa Bost, 12 Stryd y Cei, Hwlffordd - o 10.30am tan 2pm
Bydd Cynghrair Henoed Cymru, casgliad o elusennau sy'n darparu gwybodaeth a gwasanaethau i bobl hŷn, yn cynnal digwyddiad sioe deithiol yn HaverHub yn Hwlffordd ar ddydd Mercher 4ydd o Fedi.
Bydd y sioe deithiol, sy'n rhad ac am ddim, yn darparu gwybodaeth a chymorth ar ystod eang o faterion sy'n berthnasol i bobl hŷn gan gynnwys arthritis, strôc, a gofalu am berson sy'n byw gyda dementia.
Bydd yna arddangosiad Ymarfer Corff Gweithredol Ysgafn gan Age Cymru am 1pm. Dyma gyfres o symudiadau sy'n ymarfer y corff. Mae'n bosib eu gwneud mewn cadair er mwyn rhoi cyfle i bobl sy'n wynebu problemau symudedd i gadw'n heini.
Meddai Chris Williams o'r Gynghrair "Rydyn ni'n gwybod bod pobl hŷn yng Nghymru yn wynebu heriau anodd iawn ar hyn o bryd. Maen nhw'n ceisio ymdopi gydag amseroedd aros y GIG, cyfnod hir o aros cyn cael mynediad at ofal cymdeithasol, a'r argyfwng costau byw.
"Rydyn ni'n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw wynebu'r materion hyn yn ogystal â heriau sy'n ymwneud a heneiddio fel arthritis, colli clyw a chyfrifoldebau gofalu.
"Fodd bynnag, rydyn ni'n sicrhau pobl hŷn nad ydyn nhw ar eu pennau eu hunain. Mae yna lawer o sefydliadau sy'n barod i gynnig eu cefnogaeth. Felly, byddwn yn annog unrhyw berson hŷn yn yr ardal, neu eu ffrindiau a'u perthnasau, i ddod i'r sioe deithiol a cheisio'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt er mwyn heneiddio'n fwy cyfforddus."
Os hoffech chi fwy o wybodaeth ffoniwch Chris Williams ar 029 20431 548 neu e-bostiwch christopher.williams@agecymru.org.uk.
Diwedd
Nodiadau i Olygyddion
Rhestr o arddangoswyr:
Age Cymru Dyfed
Cymdeithas Alzheimer
Gofal a Thrwsio Gorllewin Cymru
Hourglass
Parkinsons
Prime Cymru
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Fyddar a Thrwm eu Clyw
Y Gymdeithas Wirfoddol Frenhinol
Cymdeithas Strôc
Versus Arthritis
Hwb Cymunedol Sir Benfro