Age Cymru’n lansio eu pumed arolwg o brofiadau pobl dros 50 oed yng Nghymru
Published on 03 Ebrill 2024 01:23 yh
Mae arolwg ‘Beth sy’n Bwysig i Chi?’ yn ein helpu ni i ddeall heriau, anghenion a dyheadau pobl hŷn.
Mae Age Cymru a'r sefydliadau allweddol sy'n cynrychioli pobl hŷn yng Nghymru wedi lansio eu pumed arolwg blynyddol Beth sy'n Bwysig i Chi? gan holi pobl dros 50 oed ledled Cymru, er mwyn i ni wella ein dealltwriaeth o'r heriau sy’n wynebu pobl hŷn, yn ogystal â’u hanghenion a'u dyheadau.
Ymatebodd mwy na phum mil o bobl i arolygon blaenorol gan ddarparu tystiolaeth hanfodol. Roedd hyn yn caniatáu i'r elusen lywio a hysbysu’r bobl sy'n gwneud penderfyniadau allweddol a darparwyr gwasanaethau yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, gwasanaethau iechyd a chymdeithasol lleol, a'r sector gofal ehangach.
Meddai cynrychiolwyr yr elusen bod yr arolwg dwyieithog hefyd yn eu helpu i flaenoriaethu eu gwaith gan eu galluogi i wella’r ffordd maent yn adlewyrchu ar yr hyn sydd bwysicaf i bobl hŷn yng Nghymru. Mae'r arolwg yn ymdrin ag ystod eang o faterion gan gynnwys mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol, cyllid personol, materion yn ymwneud â thai, cyfrifoldebau gofalu, cyfleoedd am waith â thâl, ac ansawdd ac argaeledd trafnidiaeth leol, gan gynnwys trafnidiaeth sy’n gysylltiedig â’r ysbyty.
Dywedodd pennaeth polisi Age Cymru, Heather Ferguson "Rydym yn gwybod bod llawer o bobl hŷn yn wynebu heriau anodd ar hyn o bryd megis anawsterau o ran cael mynediad at iechyd a gofal cymdeithasol, ymdopi â'r argyfwng costau byw, ac maent yn wynebu toriadau mewn meysydd fel trafnidiaeth gyhoeddus a bancio wyneb yn wyneb. Felly, mae angen i ni wybod beth yw blaenoriaethau pobl hŷn a beth yw eu syniadau ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r heriau hyn.
"Po fwyaf o wybodaeth rydyn ni'n casglu, y mwyaf dylanwadol ac effeithiol y byddwn ni wrth ymgyrchu gyda phobl hŷn yng Nghymru ac ar eu cyfer.
"Os hoffai unrhyw un ymgyrchu gyda'r elusen dros unrhyw un o'r materion a nodwyd yn yr arolwg, rhowch wybod i ni. Rydym bob amser yn ceisio cydweithio er mwyn tynnu sylw’r cyfryngau, gwleidyddion, a llawer o randdeiliaid allweddol eraill at y materion sy’n bwysig i chi. Cysylltwch â'm cydweithiwr Michael Phillips am sgwrs anffurfiol ar 07794 366 224 neu e-bostiwch michael.phillips@agecymru.org.uk"
Sut i gwblhau ein harolwg
Ewch i www.agecymru.org.uk/annualsurvey i gwblhau'r arolwg ar-lein. Am y fersiwn Gymraeg ewch i www.agecymru.cymru/arolwgblynyddol
I gael copi papur ffoniwch 029 2043 1555 a dychwelwch yr arolwg gan ddefnyddio ein cyfeiriad rhadbost: Age Cymru, FREEPOST RTZG-JHGC-RYJJ, LLAWR GWAELOD, Tŷ’r Mariners, Age Cymru, Llys Trident, Ffordd Ddwyrain Moors, CAERDYDD CF24 5TDY dyddiad cau ar gyfer arolygon sydd wedi'u cwblhau yw dydd Gwener 29 Mawrth 2024.
Diwedd.