Age Cymru’n cynnal hysting yn Gogledd Cymru cyn yr etholiad er mwyn clywed sut fyddai ymgeiswyr yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu pobl hŷn
Published on 04 Gorffennaf 2024 04:21 yh
Age Cymru Gwynedd a Môn’s Y Cartref, Bontnewydd, Caernarfon
Mehefin 25 – 1:30pm to 2:30pm
Mae pobl hŷn yn wynebu heriau anodd iawn ar hyn o bryd, yn cynnwys tlodi ymhlith pensiynwyr, allgau digidol, cadw eu cartrefi’n gynnes a banciau’n cau. Rydyn ni eisiau clywed sut fyddai ymgeiswyr lleol yn mynd i’r afael â’r problemau hyn mewn hysting lleol ar gyfer etholaeth Dwyfor Meirionydd.
Cynhelir gan Age Cymru mewn cydweithrediad â'u partneriaid Age Cymru Gwynedd a Môn yn Y Catref, Bontnewydd. Mae’r trefnwyr yn gwahodd pleidleiswyr lleol i gyflwyno eu cwestiynau am yr heriau sy’n wynebu pobl hŷn lleol er mwyn dysgu am gynlluniau’r pleidiau gwahanol a darparu cyfle i bobl graffu ar nodau’r pleidiau.
Os hoffech chi gyflwyno cwestiwn a mynychu’r hystings, sy’n rhad ac am ddim, a chlywed beth mae ymgeiswyr lleol yn dweud am faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn, ffoniwch Rhian Morgan ar 07944 996943, e-bostiwch Rhian.morgan@agecymru.org.uk neu ewch i https://www.agecymru.cymru/etholiad
Cyflwynwch eich cwestiynau ac archebwch eich lle yn y digwyddiad erbyn dydd Iau, 20 Mehefin 2024.