Mae Age Cymru yn deall bod eich preifatrwydd yn bwysig, ac rydym yn poeni am sut mae data personol yn cael ei ddefnyddio. Rydym yn parchu ac yn gwerthfawrogi preifatrwydd pawb sy'n cysylltu ag Age Cymru a byddwn ond yn casglu ac yn defnyddio data personol fel rydyn ni’n ei ddisgrifio yn y polisi hwn, ac mewn ffordd sy'n gyson â'n rhwymedigaethau a hawliau pob unigolyn o dan y gyfraith.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i unigolion y mae eu data personol yn cael ei brosesu gan Age Cymru, gan gynnwys y rhai sy'n defnyddio ein gwefan, yn defnyddio ein gwasanaethau neu'n gwirfoddoli gyda ni. Nid yw'r polisi hwn yn berthnasol i gyflogeion Age Cymru a'r data personol yr ydym yn ei gasglu a'i ddefnyddio wrth gyflogi gweithwyr. Os ydych chi'n gweithio i Age Cymru, cyfeiriwch at y Fewnrwyd i gael y wybodaeth berthnasol am breifatrwydd.
Darllenwch y polisi preifatrwydd hwn yn ofalus gan ei fod yn cynnwys gwybodaeth bwysig am bwy ydym ni a sut a pham yr ydym yn casglu, storio, defnyddio a rhannu eich data personol. Mae hefyd yn esbonio'ch hawliau mewn perthynas â'ch data personol a sut i gysylltu â ni neu awdurdodau goruchwylio os oes gennych gŵyn.
Rydym yn casglu, yn defnyddio ac yn gyfrifol am ddata personol penodol amdanoch chi. Pan fyddwn yn gwneud hynny, rydym yn ddarostyngedig i Reoliad Diogelu Data Cyffredinol y DU.
Byddai'n ddefnyddiol dechrau drwy esbonio rhai termau allweddol a ddefnyddir yn y polisi hwn:
Yr ydym ni, ein |
Age Cymru, elusen gofrestredig yng Nghymru a Lloegr a chwmni cyfyngedig drwy warant. Am fwy o wybodaeth am Age Cymru, gweler adran 2 isod. |
Ein Swyddog Diogelu Data |
Amanda O'Shea Cyfeiriad e-bost Amanda yw amanda.oshea@agecymru.org.uk |
Data personol | Unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud ag unigolyn dynodedig neu adnabyddadwy. |
Data personol categori arbennig | Data personol sy'n datgelu hil neu ethnigrwydd, barn wleidyddol, credoau crefyddol, credoau athronyddol neu aelodaeth undeb llafur, data genetig, data biometrig (lle y'i defnyddir at ddibenion adnabod), data sy'n ymwneud ag iechyd, materion yn ymwneud â rhyw neu gyfeiriadedd rhywiol. |
Age Cymru yw'r elusen genedlaethol ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru. Rydym yn elusen gofrestredig ac yn gwmni cyfyngedig drwy warant.
Swyddfa Gofrestredig: Llawr Gwaelod, Tŷ’r Mariners, Llys Trident, Ffordd Ddwyrain Moors, Caerdydd CF24 5TD.
Rhif yr Elusen: 1128436
Rhif y Cwmni: 0683728
Rydym yn casglu data gan yr unigolion hynny sy'n defnyddio ein gwefan, sy'n defnyddio ein gwasanaethau, sy'n gwirfoddoli gyda ni neu sy'n darparu gwasanaethau neu nwyddau i ni. Mae hyn yn cynnwys:
Rydym yn gofyn i unigolion 16 oed neu iau gael caniatâd eu rhiant/gwarcheidwad pryd bynnag y byddwn yn darparu gwybodaeth bersonol i ni.
O dan y gyfraith diogelu data, rydyn ni ond yn medru defnyddio eich data personol os oes gennym reswm priodol, e.e.
Buddiant dilys yw pan fydd gennym reswm busnes neu fasnachol i ddefnyddio eich data personol, cyn belled nad yw eich hawliau a'ch buddiannau chi yn drech na hyn. Byddwn yn cynnal asesiad wrth ddibynnu ar fuddiannau dilys, i gydbwyso ein buddiannau yn erbyn eich buddiannau eich hun.
Mae'r tabl isod yn esbonio sut rydym yn defnyddio eich data personol a pham.
Ar gyfer beth rydyn ni’n defnyddio eich data personol? |
Ein rhesymau |
Darparu ein gwasanaethau i chi. Rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am ein gwasanaethau, gan gynnwys rhoi gwybod i chi am newidiadau i wasanaethau sydd wedi'u cynllunio. |
Yn dibynnu ar natur y gwasanaethau rydym yn eu darparu, ein sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data personol fydd: - I gyflawni ein contract gyda chi neu i gymryd camau ar eich rhan cyn ymrwymo i gontract – mae hyn yn berthnasol pan fyddwn wedi ymrwymo i gontract gyda chi mewn perthynas â'r gwasanaethau; - Yn ein buddiannau cyfreithlon o gyflawni gweithgareddau elusennol a darparu gwasanaethau fel elusen - bydd hyn yn berthnasol os nad ydym wedi ymrwymo i gontract gyda chi. |
Yn ein buddiannau cyfreithlon o gyflawni gweithgareddau elusennol a darparu gwasanaethau fel elusen. | Yn ein buddiannau cyfreithlon o gyflawni gweithgareddau elusennol a darparu gwasanaethau fel elusen. |
Rhannu gwybodaeth gyda'r gwasanaethau brys lle mae angen diogelu bywyd neu iechyd neu atal a chanfod/adrodd materion sy’n ymwneud â diogelu a gwneud adroddiadau angenrheidiol. |
- Lle mae angen diogelu bywyd neu iechyd neugymryd camau mewn perthynas â mater sy’n ei wneud â diogelu sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni rannu'r data personol;
|
Cynnal gwiriadau i nodi ein Gwirfoddolwyr (gan gynnwys Ymddiriedolwyr) a gwirio pwy ydynt. | Yn dibynnu ar yr amgylchiadau. |
Gweithgareddau eraill sy'n angenrheidiol i gydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol sy'n berthnasol i'n busnes, e.e. o dan gyfraith iechyd a diogelwch neu reolau a gyhoeddir gan y Comisiwn Elusennau. | - i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol; - er ein buddiannau cyfreithlon o ran rhedeg elusen. |
Casglu a darparu gwybodaeth sy'n ofynnol gan archwiliadau neu ymholiadau neu sy'n ymwneud â nhw ac i gydymffurfio â gofynion gwybodaeth y rhai sy'n darparu cyllid grant i ni. | i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol. |
Sicrhau bod polisïau busnes yn cael eu dilyn, e.e. polisïau sy'n ymwneud â diogelwch a defnydd o'r rhyngrwyd. | At ein buddiannau cyfreithlon - i sicrhau ein bod yn dilyn ein gweithdrefnau mewnol ein hunain er mwyn i ni fedru ddarparu'r gwasanaeth gorau i chi. |
Rhesymau gweithredol, megis gwella effeithlonrwydd, hyfforddiant a rheoli ansawdd. | At ein buddiannau cyfreithlon - i fod mor effeithlon ag y gallwn er mwyn i ni fedru darparu'r gwasanaeth gorau i chi am y pris gorau. |
Dadansoddiad ystadegol i'n helpu i reoli ein busnes, e.e. mewn perthynas â rheolaeth ariannol, deall y rhai sy'n defnyddio ein gwasanaethau a chyrraedd yr elusen. | At ein buddiannau teilwng neu i ddarparu gwasanaethau elusennol i bobl hŷn yng Nghymru. |
Atal mynediad ac addasiadau heb awdurdod i systemau. |
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau: - er ein buddiannau cyfreithlon - i atal a chanfod gweithgarwch troseddol a allai fod yn niweidiol i chi a/neu i ni; |
Diogelu diogelwch systemau a data a ddefnyddir i ddarparu ein gwasanaethau. |
I gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol |
Ffurflenni statudol. | I gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol. |
Sicrhau arferion gweithio diogel. |
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau: - i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol; |
Marchnata ein gwasanaethau ni a gwasanaethau trydydd partïon dethol i: - gwsmeriaid presennol a chyn-gwsmeriaid; |
At ein buddiannau cyfreithlon, h.y. i hyrwyddo ein busnes i gwsmeriaid presennol a chyn-gwsmeriaid. |
Archwiliadau allanol a gwiriadau ansawdd, e.e. ar gyfer achrediad ISO neu Fuddsoddwyr mewn Pobl, Buddsoddi mewn Gwirfoddolwyr, Marc Ansawdd Eiriolaeth, Safon Ansawdd Elusennau ac IAQP ac archwilio ein cyfrifon i'r graddau sydd ddim yn rhan o’r ‘gweithgareddau sy’n angenrheidiol er mwyn cydymffurfio gyda rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol’ uchod. |
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau: - er ein buddiannau cyfreithlon, h.y. i gynnal ein hachrediadau fel y gallwn ddangos ein bod yn gweithredu ar y safonau uchaf;- i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a rheoleiddiol. |
Rydym yn rhannu data personol gyda:
Rydym ond yn caniatáu i'r sefydliadau hynny drin eich data personol os ydym yn fodlon eu bod yn cymryd mesurau priodol i ddiogelu eich data personol.
Rydym ni neu'r trydydd partïon a grybwyllir uchod o bryd i'w gilydd hefyd yn rhannu data personol gyda:
Efallai y byddwn weithiau'n rhannu gwybodaeth ddemograffig a gwasanaeth sylfaenol gydag Age UK, yr elusen genedlaethol, er mwyn iddynt ein helpu ni i fonitro ac yn y pen draw wella'r gwasanaethau a ddarparwn. Ni fydd y wybodaeth a rannwn yn cynnwys eich enw na'ch manylion cyswllt, oni bai eich bod yn rhoi eich caniatâd i ni wneud hynny at ddiben penodol, er enghraifft rhannu eich stori. Pan fyddwn yn rhannu'r wybodaeth, rydym yn gwneud hynny o dan y sail gyfreithlon o ddiddordeb cyfreithlon.
Gellir cadw data personol yn ein swyddfeydd ni a swyddfeydd ein darparwyr gwasanaeth, cynrychiolwyr ac asiantau fel y disgrifir uchod (gweler uchod: 'Gyda phwy rydym yn rhannu eich data personol').
Ni fyddwn yn cadw eich data personol am fwy o amser nag sydd ei angen arnom at y diben y caiff ei ddefnyddio ar ei gyfer.
Mae gwahanol gyfnodau cadw yn berthnasol ar gyfer gwahanol fathau o ddata personol. Mae rhagor o fanylion am hyn ar gael yn ein Polisi Cadw Data.
Ar ôl diwedd y cyfnod cadw perthnasol, byddwn yn dileu eich data personol, neu yn ei wneud yn ddienw.
Mae gennych yr hawliau canlynol y gallwch eu harfer yn rhad ac am ddim:
Mynediad | Yr hawl i gael copi o'ch data personol. |
Cywiriad | Yr hawl i ofyn i ni gywiro unrhyw gamgymeriadau yn eich data personol. |
Dileu (a elwir hefyd yn hawl i gael eich anghofio) | Yr hawl i'w gwneud yn ofynnol i ni ddileu eich data personol—mewn rhai sefyllfaoedd. |
Cyfyngu ar brosesu | Yr hawl i'w gwneud yn ofynnol i ni gyfyngu ar brosesu eich data personol mewn rhai amgylchiadau, e.e. os ydych yn dadlau cywirdeb y data. |
Cludadwyedd data | Yr hawl i dderbyn y data personol a ddarparwyd gennych i ni, mewn fformat strwythuredig, a ddefnyddir yn gyffredin ac sy'n ddarllenadwy gan beiriant a/neu drosglwyddo'r data hwnnw i drydydd parti—mewn rhai sefyllfaoedd. |
I wrthwynebu |
Yr hawl i wrthwynebu: - ar unrhyw adeg i'ch data personol gael ei brosesu ar gyfer marchnata uniongyrchol (gan gynnwys proffilio); |
Peidio â bod yn destun gwneud penderfyniadau unigol awtomataidd | Yr hawl i beidio â bod yn destun penderfyniad sy'n seiliedig yn unig ar brosesu awtomataidd (gan gynnwys proffilio) sy'n cynhyrchu effeithiau cyfreithiol sy'n ymwneud â chi neu sy’n effeithio'n sylweddol arnoch chi |
Yr hawl i dynnu caniatâd yn ôl | Os ydych wedi rhoi caniatâd i ni ddefnyddio eich data personol, mae gennych hawl i dynnu'r caniatâd hwnnw yn ôl yn hawdd ar unrhyw adeg. Gallwch dynnu caniatâd yn ôl drwy Ni fydd tynnu caniatâd yn ôl yn effeithio ar gyfreithlondeb ein defnydd o'ch data personol yn dibynnu ar y caniatâd hwnnw cyn iddo gael ei dynnu'n ôl. |
I gael rhagor o wybodaeth am bob un o'r hawliau hynny, gan gynnwys yr amgylchiadau perthnasol, cysylltwch â ni (gweler 'Sut i gysylltu â ni' isod) neu weler y Canllawiau gan Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y DU (ICO) ar hawliau unigolion.
Os hoffech arfer unrhyw un o'r hawliau hyn:
Ysgrifennwch atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad:
Cyfeiriad Post: Age Cymru, Tŷ’r Mariners, Llys Trident, Ffordd Ddwyrain Moors, Caerdydd CF24 5TD; neu
Cyfeiriad e-bost: enquiries@agecymru.org.uk
Mae gennym fesurau diogelwch priodol er mwyn atal data personol rhag cael ei golli'n ddamweiniol, neu ei ddefnyddio neu ei gyrchu'n anghyfreithlon. Rydym yn cyfyngu mynediad at eich data personol i'r rhai sydd ag angen gwirioneddol i gael mynediad ato. Bydd y rhai sy'n prosesu eich data personol yn gwneud hynny mewn modd awdurdodedig yn unig ac yn ddarostyngedig i ddyletswydd cyfrinachedd.
Mae hefyd gennym weithdrefnau i ddelio ag unrhyw amheuaeth o dorri diogelwch data. Byddwn yn eich hysbysu chi ac unrhyw reolydd perthnasol am achos o amheuaeth o dorri diogelwch data lle mae'n ofynnol yn gyfreithiol i ni wneud hynny.
Cyhoeddwyd yr hysbysiad preifatrwydd hwn a gafodd ei ddiweddaru diwethaf ym mis Mai 2023.
Efallai y byddwn yn newid yr hysbysiad preifatrwydd o bryd i'w gilydd. Efallai y bydd hyn yn ofynnol os, er enghraifft, bydd y gyfraith yn newid, neu os ydym yn newid ein harferion busnes mewn ffordd sy'n effeithio ar sut rydym yn prosesu eich data personol.
Gall ein gwefan gynnwys dolenni i wefannau eraill sy'n cael eu rhedeg gan sefydliadau eraill. Mae'r polisi hwn yn berthnasol i'n gwefan ni yn unig, felly rydym yn eich annog i ddarllen y datganiadau preifatrwydd ar y gwefannau eraill rydych chi'n ymweld â nhw. Ni allwn fod yn gyfrifol am bolisïau ac arferion preifatrwydd gwefannau eraill, hyd yn oed os ydych yn cyrchu'r rhai sy'n defnyddio dolenni o'n gwefan.
Yn ogystal, os ydych chi'n cysylltu â'n gwefan o wefan trydydd parti, ni allwn fod yn gyfrifol am bolisïau ac arferion preifatrwydd perchnogion a gweithredwyr y safle trydydd parti hwnnw ac rydyn ni’n argymell eich bod yn gwirio polisi preifatrwydd y wefan trydydd parti honno.
Bydd unrhyw newidiadau y gallwn eu gwneud i'r polisi hwn yn y dyfodol yn cael eu cyhoeddi ar y wefan hon felly gwiriwch y dudalen hon yn achlysurol i sicrhau eich bod yn hapus gydag unrhyw newidiadau. Os byddwn yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol, byddwn yn gwneud hyn yn glir ar y wefan hon.
Gallwch hefyd gysylltu â ni neu ein Swyddog Diogelu Data drwy'r post neu e-bost os oes gennych unrhyw gwestiynau am y polisi preifatrwydd hwn neu'r wybodaeth sydd gennym amdanoch chi, i arfer hawl o dan gyfraith diogelu data neu i wneud cwyn.
Cyfeiriad Post: Age Cymru, Tŷ’r Mariners, Llys Trident, Ffordd Ddwyrain Moors, Caerdydd CF24 5TD
Cyfeiriad e-bost: enquiries@agecymru.org.uk
Ein Swyddog Diogelu Data: amanda.oshea@agecymru.org.uk