Lwfans Gweini
Os oes gennych anabledd neu salwch sy'n golygu y gallech fod angen help ychwanegol gartref efallai y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Gweini. Mae'r budd-dal hwn ar gyfer pobl sy’n hŷn nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Bob blwyddyn, amcangyfrifir bod hyd at werth £200 miliwn o Gredyd Pensiwn yn mynd heb ei hawlio gan bobl hŷn yng Nghymru.
Ydych chi'n hawlio popeth y mae gennych hawl iddo? Gallwn helpu i sicrhau nad ydych chi ar eich colled. Isod, mae yna wybodaeth am rai o'r budd-daliadau amrywiol y gallech eu hawlio. Gall ein cyfrifiannell budd-daliadau ar-lein eich helpu i ddarganfod beth allech fod yn ei hawlio. Mae’n broses gyflym a hawdd. Mae gan ein canllaw Mwy o Arian yn Eich Poced ystod o wybodaeth am fudd-daliadau a hawliadau.
Cysylltwch â ni, rydym yn barod i’ch cefnogi chi i wneud yn siŵr eich bod yn hawlio popeth y mae gennych hawl iddo.
Os oes gennych anabledd neu salwch sy'n golygu y gallech fod angen help ychwanegol gartref efallai y byddwch yn gallu hawlio Lwfans Gweini. Mae'r budd-dal hwn ar gyfer pobl sy’n hŷn nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Lwfans Gofalwr yw'r prif fudd-dal lles i helpu gofalwyr. Hyd yn oed os nad ydych chi'n meddwl amdanoch eich hun fel gofalwr, mae'n werth gwirio os allai Lwfans Gofalwr eich helpu.
Os ydych chi ar incwm isel ac yn cael trafferth talu'ch rhent, gallech hawlio Budd-dal Tai.
Gall Credyd Pensiwn roi ychydig o arian ychwanegol i chi ar ôl ymddeol. Os ydych yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd, gallai hawlio Credyd Pensiwn helpu.
Os ydych chi angen help gyda gweithgareddau bob dydd, neu help i fynd allan i gymdeithasu, efallai eich bod chi'n gymwys i dderbyn Taliad Annibyniaeth Personol. Mae'r budd-dal hwn ar gyfer pobl sy’n iau nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth.
Mae Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor eich cyngor lleol yn darparu help gyda biliau’r Dreth Gyngor.
Gall ein cyfrifiannell budd-daliadau ar-lein eich helpu chi i ddarganfod beth allech chi fod yn hawlio. Mae’n broses hawdd a chyflym.
Mae llawer iawn o fudd-daliadau gwladol yn mynd heb eu hawlio. Allech chi fod ar eich colled? Mae ychydig o arian ychwanegol yn gallu mynd yn bell, felly beth am fwrw golwg ar beth allech chi fod yn ei hawlio?
Rydym yn cynnig cymorth a chyngor drwy Gyngor Age Cymru. Os ydych chi eisiau siarad â rhywun yn uniongyrchol, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ffoniwch ni ar 0300 303 44 98 (codir tâl ar gyfradd leol) (ar agor rhwng 9:00am a 4:00pm, Llun - Gwener). E-bostiwch ni gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost advice@agecymru.org.uk