Mae meddwl am ddiwedd eich bywyd yn gallu bod yn anodd, ond gall gwybod y ffeithiau ein helpu ni i reoli'r ffordd rydyn ni'n marw.
Pan rydych chi'n colli rhywun, mae'n gallu teimlo fel bod eich byd wedi torri'n ddarnau. Gall ein cyngor a'n cefnogaeth eich helpu i ymdopi.
Er y gall fod yn frawychus i ddechrau, mae byw ar ein pennau ein hunain yn sefyllfa y gall y rhan fwyaf ohonom ymdopi â hi.
Mae'r nifer ohonom sy'n priodi yn hwyrach mewn bywyd yn cynyddu ac mae'r mwyafrif o'r rhain sydd yn ailbriodi eisoes wedi profi ysgariad neu brofedigaeth. Gwyddom y gall fod yn gyfnod cyffrous ac emosiynol, ond mae rhai materion ymarferol i'w hystyried wrth ailbriodi neu ffurfio partneriaeth sifil newydd.
Rhagor o wybodaeth defnyddiol os ydych chi'n berson hŷn sy'n cael eich cam-drin neu eich esgeuluso, neu os ydych yn pryderu am berson hŷn. Mae hyn yn cynnwys manylion am ddulliau diogelu - gan gynnwys deddfwriaeth berthnasol, canllawiau statudol a pholisïau - ynghyd â chamau ymarferol y gellir eu cymryd i atal camdriniaeth.
Mae llawer o faterion yn ddiweddarach mewn bywyd yn effeithio ar bobl sydd yn heterorywiol, lesbiaidd, hoyw, deurywiol neu draws, ond efallai y bydd angen ystyriaeth benodol am rai materion. Mae'r cyd-destun cyfreithiol wedi newid mewn perthynas â phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thraws (LHDT), a hynny'n bennaf mewn ffordd gadarnhaol. Mae gennych chi hawliau sy'n cael eu cydnabod a'u hyrwyddo. Gall gwybod am yr hawliau hyn eich helpu i ddeall systemau a all deimlo'n gymhleth neu'n ddryslyd.