Nid yw teimlo’n dda yn golygu bod yn ffit ac yn iach yn gorfforol yn unig - mae'r un mor bwysig i'ch iechyd cyffredinol eich bod chi'n teimlo'n dda yn feddyliol
Nid yw teimlo’n dda'n golygu bod yn ffit ac yn iach yn gorfforol yn unig - mae'r un mor bwysig i'ch iechyd cyffredinol eich bod chi'n teimlo'n dda yn feddyliol
Does dim angen teimlo cywilydd os ydych chi’n cael trafferth ymdopi gyda'ch teimladau. Mae sawl peth y gallwch chi eu gwneud i ofalu am eich lles meddyliol, yn ogystal â chamau y gallwch eu cymryd os ydych chi'n meddwl bod angen rhywfaint o help arnoch chi. Dyw hi byth yn rhy gynnar neu'n rhy hwyr i ofyn am gymorth.
Beth yw iechyd meddwl?
Mae rhai pobl yn galw iechyd meddylion yn 'lles meddyliol', 'iechyd emosiynol', neu'n 'les emosiynol'. Mae ein hiechyd meddwl yn effeithio ar sut rydyn ni'n meddwl ac yn teimlo, a sut rydyn ni'n ymdopi gyda heriau bywyd. Wrth i ni symud trwy wahanol gyfnodau ein bywydau ac mae ein hamgylchiadau'n newid, gall ein hiechyd meddwl newid hefyd.
Mae problemau iechyd meddwl yn fwy cyffredin nag y mae llawer o bobl yn ei feddwl. Gan nad oes arwyddion allanol yn aml, efallai na fyddwch yn sylweddoli bod unrhyw beth o’i le. Dau o'r problemau iechyd meddwl mwyaf cyffredin yw iselder a gorbryder.
Beth all effeithio ar fy lles meddyliol?
Mae llawer o resymau pam gall eich lles meddyliol newid. Gall ddigwyddiad arwyddocaol neu ofidus sbarduno newid yn eich lles meddylion. Gall hyn gynnwys:
1. ymddeoliad
2. profedigaeth
3. problemau perthynas neu deuluol
4. pryderon yn ymwneud ag arian
5. anabledd neu iechyd gwael, gan gynnwys colli golwg a chlyw
6. bod yn ofalwr
7. bod ar eich pen eich hun
8. amser y flwyddyn.
Beth alla i wneud os ydw i'n teimlo'n isel?
Os ydych chi'n teimlo’n isel ac os oes gennych chi unrhyw un o'r symptomau hyn am bythefnos neu fwy, efallai eich bod chi'n dioddef iselder:
1. colli hunan hyder a theimlo'n isel
2. teimlo'n bryderus
3. ddim yn gallu mwynhau'r pethau rydych chi fel arfer yn eu mwynhau
4. dolur a phoenau anesboniadwy
5. rydych chi’n osgoi pobl, hyd yn oed y rhai sy'n agos atoch chi.
Os oes gennych unrhyw rai o'r symptomau hyn, siaradwch â'ch meddyg teulu ac egluro sut rydych chi'n teimlo. Gyda'ch gilydd gallwch gytuno ar ba gamau a allai fod orau i chi.
Os gallwch fynd i'r afael â'ch problemau'n gynnar, mae’n llai tebygol y bydd eich sefyllfa’n gwaethygu. Gall fod yn anodd siarad gyda ffrindiau a theulu am eich teimladau, ond gall hynny eich helpu chi i weld pethau o safbwynt gwahanol. Os byddai'n well gennych siarad â rhywun nad ydych yn agos ato, efallai y bydd yn ddefnyddiol i chi siarad â chwnselydd neu ymweld â grŵp cymorth.
Gall y Samariaid helpu
Gall y Samariaid helpu
Os oes yn well gennych siarad â rhywun dros y ffôn, mae'r Samariaid yn rhoi cefnogaeth emosiynol ar eu llinell gymorth 24 awr.
Beth alla i ei wneud i wella fy lles meddyliol?
Gallwch ofalu am eich iechyd meddylion yn yr un ffordd rydych chi’n gofalu am eich iechyd corfforol, gan leihau eich risg o fynd yn sâl.
Ceisiwch wneud y pethau canlynol i roi hwb i'ch lles meddyliol:
Bwyta ac yfed yn synhwyrol
Mae'r hyn rydyn ni'n ei fwyta ac yn yfed yn effeithio ar y ffordd rydyn ni'n teimlo. Bwytewch ddigon o ffrwythau a llysiau ffres - ceisiwch beidio llenwi eich corff gyda bwydydd llawn siwgr a braster.
Ewch i wefan Galw Iechyd Cymru i gael rhagor o wybodaeth am fwyta'n iach.
Mae nifer ohonom yn mwynhau diod feddwol bob hyn a hyn ac mae'n hawdd dweud wrth ein hun y bydd alcohol yn gwneud i ni deimlo'n well, ond cofiwch fod alcohol yn ddarostyngol ac mae'n gallu effeithio ar eich hwyliau. Cyfyngwch faint o alcohol rydych chi'n ei yfed a pheidiwch yfed alcohol am o leiaf dau ddiwrnod yr wythnos.
Cadw'n heini
Mae ymchwil wedi dangos bod gweithgarwch corfforol rheolaidd yn gwella hwyliau ac mae eich corff yn cynhyrchu mwy o gemegau'r ymennydd sy'n gwneud i chi deimlo'n hapus. Dyw hi byth yn rhy hwyr i fod yn egnïol.
Mwy o wybodaeth am gadw’n heini
Mae gan ein canllaw ragor o wybodaeth:
Canllaw Gwybodaeth 56: Mae eich iechyd meddwl yn bwysig - syniadau ac awgrymiadau ar gyfer cynnal lles emosiynol