Pa ymarfer corff allai fod yn addas i chi?
Pa ymarfer corff allai fod yn addas i chi?Mae gweithgareddau gwahanol yn cynnig gwahanol fanteision, felly rhowch gynnig ar amrywiaeth o bethau. Mae dod o hyd i rywbeth rydych chi'n ei fwynhau yn golygu eich bod chi'n fwy tebygol o'i wneud yn rheolaidd.
Gweithgaredd/ymarfer corff |
Hyblygrwydd |
Cryfder |
Stamina |
Cydbwysedd |
Cerdded yn gyflym |
|
x |
x |
x |
Dringo grisiau |
|
x |
x |
|
Nofio |
x |
|
x |
|
Dawnsio |
x |
|
x |
x |
Bowls neu golff |
x |
|
x |
x |
Yoga |
x |
x |
|
x |
Tai chi |
x |
x |
|
x |
Does dim rhaid i chi symud o gwmpas i elwa o wneud ymarfer corff. Gallwch chi eistedd neu afael mewn cadair er mwyn gwneud ymarfer corff a gwella eich cryfder a hyblygrwydd eich cyhyrau. Gallwch wylio fideos ar-lein sy'n dangos ymarferion y medrwch eu gwneud wrth eistedd.
Os ydych chi'n eistedd tipyn yn ystod y diwrnod, ceisiwch wneud ychydig o ymarfer corff ychwanegol. Fodd bynnag, os oes gennych gyflwr iechyd sy'n gwneud symud yn anodd neu'n boenus, fel Parkinson's, arthritis neu osteoporosis, gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i'ch meddyg teulu am help i ddewis yr ymarfer cywir.
Efallai y byddan nhw'n gallu awgrymu gweithgareddau addas a dosbarthiadau arbennig ar gyfer pobl â'r cyflyrau iechyd hyn.
Efallai y byddwch eisiau ymweld â'n gwefan i ddarllen ein rhaglenni gweithgaredd corfforol. Rydym yn cynnal nifer o raglenni gan gynnwys Cerdded Nordig, LIFT (Ymarfer Corff Ysgafn) a Tai Chi.
Efallai y byddwch eisiau darllen ein canllaw, 'Bod yn gyson':
Canllaw Gwybodaeth 14: Bod yn gyson - Bod yn actif a lleihau eich risg o syrthio