Atal cwympo
Atal cwympo
Os ydych yn cwympo, neu'n dechrau teimlo’n sigledig, siaradwch gyda’ch meddyg teulu, hyd yn oed os nad ydych yn poeni’n ormodol. Efallai y bydd eich meddyg teulu eisiau ystyried eich meddyginiaeth neu drefnu profion ar eich cyfer.
Gyda'ch caniatâd, gall eich meddyg teulu eich cyfeirio at y gwasanaeth atal cwympo yn eich ardal er mwyn trefnu asesiad risg. Gallai hyn gynnwys gwirio'ch golwg, ystyried unrhyw broblemau ychwanegol, gwirio'ch cartref am beryglon posibl a/neu fynychu dosbarth ymarfer corff i wella eich cryfder a'ch cydbwysedd.
Mae gan adran hybu iechyd ein gwefan dudalen fanwl am atal cwympiadau.
Hefyd, gall ein hadnoddau gwybodaeth canlynol fod o gymorth:
Canllaw Gwybodaeth 14: Bod yn Gyson
Canllaw Gwybodaeth 24: Byw'n Iach
Taflen Wybodaeth 7: Diogelwch yn y cartref