Hawliau dynol
Mae hawliau dynol yn hawliau sylfaenol sy'n perthyn i bob un ohonom yn syml am ein bod yn ddynol. Maent yn ymgorffori gwerthoedd allweddol yn ein cymdeithas megis tegwch, urddas, cydraddoldeb a pharch.
Maent yn ffordd bwysig o amddiffyn pob un ohonom, yn enwedig y rhai a allai wynebu camdriniaeth, esgeulustod ac unigedd. Yn bwysicaf oll, mae'r hawliau hyn yn rhoi grym inni ac yn ein galluogi i godi llais ac i herio triniaeth wael gan awdurdod cyhoeddus.
Pa hawliau sydd fwyaf perthnasol i mi?
Erthygl 2: Yr hawl i fyw
Rhaid i awdurdodau cyhoeddus:
- gymryd camau priodol i ddiogelu bywyd person e.e. sicrhau deddfau digonol i'ch amddiffyn rhag eraill a allai fod eisiau niweidio eich bywyd
- peidio â chymryd bywyd person i ffwrdd, ac eithrio mewn ambell amgylchiad penodol a chyfyng iawn.
Nid yw'n golygu bod yr hawl i gael triniaeth feddygol yn bodoli ym mhob amgylchiadau.
Os bydd rhywun yn marw o ganlyniad i ddefnydd o rym gan y wladwriaeth, neu fethiant y wladwriaeth i ddiogelu bywyd, dylai fod ymchwiliad swyddogol effeithiol i'r hyn ddigwyddodd.
Sut gallai hyn fod yn berthnasol i mi neu bobl hŷn eraill?
- Ni ddylai triniaeth feddygol gael ei wrthod i achub fy mywyd oherwydd fy oedran
- Mae angen rhoi digon i mi fwyta ac yfed tra mod i yng ngofal sefydliad
- Ni ddylwn gael gorchymyn 'na cheisir dadebru' ar fy ffeil heb fy hawl i, os na allaf fynegi fy marn fy hun, dylid gofyn am ganiatâd fy nheulu
- Ni ddylwn gael fy rhyddhau o'r ysbyty os nad ydw i'n gallu gofalu am fy hun, os nad oes gofal i fy nghefnogi ac os byddai fy mywyd mewn perygl o ganlyniad
- Yn yr amgylchiadau bod fy marwolaeth yn amheus neu heb esboniad, rhaid cynnal cwest effeithiol
Yr hawl hon ar waith
Roedd teuluoedd y rhai fu farw yn ysbyty Mid Staffordshire yn gallu defnyddio dadleuon hawliau dynol i sicrhau iawndal am driniaeth erchyll a ddioddefodd eu perthnasau, fel peidio cael cymorth i fwyta neu yfed neu gael eu gadael yn eu gwastraff eu hun am oriau.
Mewn nifer o achosion roedden nhw'n gallu dadlau bod triniaeth ac esgeulustod gwael wedi achosi marwolaeth eu hanwyliaid a bod hyn yn torri eu hawl i fywyd. Roedden nhw hefyd yn gallu defnyddio'r ddyletswydd ymchwiliol sydd wedi ei chynnwys o fewn yr hawl i fywyd, i sicrhau ymchwiliad cyhoeddus i farwolaethau eu perthnasau.
Roedd yr ymchwiliad hwn hefyd yn cynnig argymhellion ar gyfer atal y math yma o driniaeth yn y dyfodol.
Ffynhonnell: Blog hawliau dynol y DU
Erthygl 3: Gwahardd artaith, triniaeth annynol a diraddiol
Mae gen i'r hawl i beidio â chael fy nhrin yn annynol, i beidio cael fy ngham-drin, fy niraddio neu fy mychanu.
Beth mae hyn yn ei olygu?
- Mae'n rhaid iddo fod yn driniaeth ddifrifol iawn i gyrraedd trothwy Erthygl 3, fodd bynnag a fydd triniaeth yn cyrraedd y trothwy hwn yn dibynnu ar ffeithiau'r achos unigol
- Mae artaith yn niwed corfforol neu feddyliol difrifol a achosir gan y wladwriaeth
- Mae triniaeth annynol yn golygu triniaeth sy'n achosi dioddefaint meddyliol neu gorfforol difrifol
- Mae triniaeth ddiraddiol yn golygu triniaeth sy'n bychanu ac yn ddigywilydd
- Mae gan awdurdodau cyhoeddus ddyletswydd gadarnhaol hefyd i geisio atal eraill rhag eich trin mewn ffordd annynol neu ddiraddiol
- Nid oes rhaid i driniaeth annynol neu ddiraddiol gael ei achosi'n fwriadol.
Sut gallai hyn fod yn berthnasol i mi neu bobl hŷn eraill?
- Ni ddylwn gael fy ngham-drin mewn unrhyw ffordd
- Dylwn i fod yn ddiogel rhag cam-drin corfforol neu feddyliol e.e. pan yn yr ysbyty neu gartref gofal
- Dylwn gael fy nghefnogi i fwyta neu yfed os nad ydw i'n gallu gwneud hyn fy hun
- Ni ddylid defnyddio gormod o rym i'm dal i lawr
- Ni ddylwn gael fy esgeuluso e.e. cael fy ngadael mewn dillad brwnt, sydd heb eu newid am gyfnodau hir
- Ni ddylwn brofi cyflyrau gwael fel diffyg mynediad at ofal iechyd mewn lleoliadau sefydliadol fel carchardai neu gartrefi gofal
- Gallai gwahaniaethu'n ddifrifol yn fy erbyn oherwydd hiliaeth olygu triniaeth ddiraddiol
- Lle rwy'n codi pryder gwirioneddol am driniaeth annynol neu ddiraddiol, rhaid i awdurdod cyhoeddus ymchwilio.