Brechlyn coronafeirws (a dosau atgyfnerthu)
Derbyn brechlyn COVID-19 – gwybodaeth gefndirol
Yn wreiddiol, roedd cwrs cychwynnol o 2 ddos cyffredinol o'r brechlyn a gynigiwyd o fis Rhagfyr 2020 i'r boblogaeth gyfan (dros 5 oed). Daeth Llywodraeth Cymru a hyn i ben ar 30 Mehefin 2023, felly maent bellach yn cynghori:
Mae ymgyrchoedd brechlyn atgyfnerthu ar gyfer y rhai sydd fwyaf mewn perygl wedi parhau o bryd i'w gilydd ers hynny.
Derbyn brechlyn COVID-19 – ymgyrchoedd atgyfnerthu ar gyfer pobl sydd â risg uwch
Yn hydref 2024, mae'r grwpiau cymwys ar gyfer dos breichiadau atgyfnerthu yn cynnwys:
- Preswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn;
- pobl 65 oed a hŷn (gan gynnwys y rhai 65 oed erbyn 31 Mawrth 2025); a
- pobl iau sydd mewn 'grŵp risg clinigol' (gan gynnwys y rhai sydd â gwrthimiwnedd).
Dylai pawb sy'n gymwys ar gyfer y dos atgyfnerthu gael eu gwahodd am eu breichiad gan eu Bwrdd Iechyd Lleol. Os teimlwch y dylech fod yn gymwys ond nad ydych wedi derbyn gwahoddiad, cysylltwch a'ch Bwrdd Iechyd Lleol i ofyn am hwn - gweler y ddolen isod.
Os na allwch teithio i gael eich breichiad, dylwch dal derbyn cysylltiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol. Gall y GIG wneud trefniadau arbennig ar gyfer pobl sy'n gaeth i'w cartrefi.
Gwiriwch gyda Llywodraeth Cymru neu'ch Bwrdd Iechyd Lleol i weld pryd y cyhoeddir rhagor o wybodaeth.
Beth sy'n digwydd ar ôl i mi gael fy mrechiad?
Yn gyffredinol, mae pwrpas brechlyn yr un peth bob amser: hyfforddi ein system imiwnedd i ymateb i germ fel pe bai wedi'i weld o'r blaen ac yn cofio sut i'w daclo. Mae brechlynnau'n dysgu ein cyrff i adnabod antigenau. Dyma'r rhan o'r feirws sy'n glynu wrth y celloedd yn ein corff - rhywbeth y mae angen iddyn nhw ei wneud i gopïo ac achosi haint. Ar ôl i ni gael brechlyn, os yw'r feirws yn mynd i mewn i'n corff, dylai ein system imiwnedd gofio beth i'w wneud a chynhyrchu gwrthgyrff i'w ymladd. Mae hyn yn golygu na ddylai'r haint gael cyfle i dyfu yn ein corff ac ni ddylem fynd yn sâl gyda'r feirws.
Ni ellir gwarantu eu bod 100% yn effeithiol ym mhob sefyllfa, fodd bynnag, dylai'r brechlyn ei gwneud yn llawer llai tebygol y byddwch yn ddifrifol wael neu bydd angen i chi fynd i'r ysbyty.
Pan fyddwch yn derbyn y brechlyn, efallai y byddwch yn profi rhai sgîl-effeithiau sy'n gyffredin ymhlith brechlynnau eraill, er enghraifft y brechlyn ar gyfer y ffliw. Mae’r sgil-effeithiau yn cynnwys:
- Poen yn eich braidd, yn enwedig yn y rhan o’ch braich y cawsoch eich pigiad.
- Blinder.
- Cur pen.
- Poenau cyffredinol neu symptomau tebyg i ffliw ysgafn.
- Chwarennau chwyddedig (mae hyn ond yn effeithio ar nifer fach o bobl).
Os ydych chi'n profi unrhyw un o'r sgîl-effeithiau hyn, ni ddylen nhw bara'n rhy hir - maen nhw fel arfer yn pasio heibio o fewn wythnos. Ond os nad ydyn nhw'n clirio neu os ydych chi'n dechrau teimlo'n waeth, dylech ffonio GIG 111 Cymru i ddisgrifio'ch symptomau a rhoi gwybod iddyn nhw eich bod chi wedi cael y brechlyn er mwyn iddyn nhw fedru eich cynghori.
Gellir nodi unrhyw sgîl-effeithiau a gewch gyda Chynllun Cerdyn Melyn yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd.
Sut y bydd caniatâd ar gyfer derbyn y brechlyn yn cael ei roi gan bobl sydd â llai o gapasiti i wneud penderfyniadau am eu gofal iechyd?
Bydd yn ofynnol i bawb sy'n derbyn brechlyn coronafeirws roi caniatâd. Efallai na fydd gan rai pobl sy'n cael cynnig y brechlyn y gallu meddyliol i wneud penderfyniadau am frechu - gallai hyn fod yn berthnasol i'ch anwyliaid.
Os felly, bydd angen i'r penderfynwr - meddyg teulu neu'r person sy'n rhoi'r brechlyn fel arfer - ddilyn y gofynion cyfreithiol a nodir o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol.