Gyda chymorth ein gwybodaeth a'n cyngor amrywiol, byddwn yn eich helpu i weld ac osgoi'r sgamiau diweddaraf sy'n targedu eich arian.
Peidiwch byth â darparu data personol fel eich enw llawn, cyfeiriad a dyddiad geni - gall sgamwyr ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddwyn eich hunaniaeth.
Peidiwch â chaniatáu i chi eich hun gael eich rhoi dan bwysau i roi arian a pheidio byth â gwneud rhoddion drwy arian parod neu gerdyn rhodd, nac anfon arian drwy asiantau trosglwyddo.
Os ydych yn meddwl eich bod wedi cael eich targedu gan sgam, siaradwch â'ch banc yn syth a rhowch wybod am unrhyw dwyll i Action Fraud drwy ffonio 0300 123 2040.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Cyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98.
Yr amcangyfrif yw bod £1.2bn yn cael ei golli i dwyll buddsoddi bob blwyddyn. Darganfyddwch sut i adnabod sgam a defnyddio Rhestr Rhybuddion yr FCA i edrych ar gyfle.