Pan fydd rhywun yn marw
Beth i'w wneud pan fo rhywun yn marw
Pan fo rhywun yn marw mae'n gallu bod yn amser emosiynol iawn a gall hyn ei gwneud hi'n anodd gwybod pa bethau ymarferol y mae angen i chi eu gwneud nesaf.
Mae gennym ystod o adnoddau gwybodaeth isod a all gynorthwyo, boed hynny gyda:
- materion ymarferol megis ymdrin â gwaith papur, cyllid ac eiddo; neu
- ymdopi â'ch ymateb emosiynol eich hun i farwolaeth y person.
Mwy o wybodaeth ddefnyddiol
Canllaw Gwybodaeth 03: Pan fydd rhywun yn marw
Canllaw Gwybodaeth 32: Profedigaeth
Canllaw Gwybodaeth 56: Eich meddwl yn bwysig – syniadau ac awgrymiadau ar gyfer lles emosiynol
Taflenni Ffeithiau 14: Delio gydag ystâd
Ar hyn o bryd mae'r dogfennau a restrir uchod nad oes ganddynt hypergyswllt ar gael yn Saesneg yn unig – gellir gweld copïau ar fersiwn iaith Saesneg ein gwefan. Cysylltwch â ni os ydych yn dymuno trafod hyn neu os hoffech chi fersiwn Gymraeg.