Arbedion ynni
Arbed arian ar eich biliau ynni
Does yr un ohonon ni eisiau talu mwy am ein hegni nag sydd angen i ni. Ond dydy arbed arian ddim yn golygu y dylen ni ddefnyddio llai o egni na sydd ei angen arnom – mae'n bwysig cael digon o olau a chynhesrwydd i gadw'n ddiogel a chadw’n gyfforddus gartref.
Sut alla i ddod o hyd i gwell bargen ynni?
Edrychwch pa fargeinion eraill y mae eich cyflenwr yn ei gynnig
Efallai eich bod chi'n talu gormod am eich egni. Mae llawer o bobl ar dariff safonol eu cyflenwr, mae’n anhebygol mai dyna’r fargen orau.
Bydd eich cyflenwr yn cynnig amrywiaeth o dariffau, a gall rhai ohonynt fod yn rhatach i chi. Dylai eich biliau a datganiadau eraill roi rhai opsiynau rhatach posibl i chi, neu gallwch ffonio eich cyflenwr i ofyn.
Mae hefyd yn bwysig rhoi darlleniadau mesuryddion rheolaidd er mwyn derbyn biliau cywir, gwirio'ch biliau i sicrhau cywirdeb a chodi unrhyw bryderon gyda'ch cyflenwr.
Gwiriwch sut rydych chi'n talu
Ydych chi'n talu eich biliau ynni yn y ffordd fwyaf effeithiol? Mae'r rhan fwyaf o gyflenwyr yn cynnig gostyngiad os ydych yn talu trwy ddebyd uniongyrchol yn lle arian parod neu siec. Gall bilio di-bapur, lle rydych chi'n rheoli eich cyfrif ar-lein yn lle derbyn biliau drwy’r post, hefyd fod yn rhatach.
Newid cyflenwr i gael bargen
Efallai y byddwch yn arbed mwy o arian fel hyn os byddwch chi'n newid cyflenwr ynni. Gallwch ddefnyddio Gwefan Cymharu Prisiau achrededig Ofgem i'ch helpu i gymharu bargeinion ar draws ystod o gyflenwyr. Mae gan lawer o'r gwefannau hyn wasanaeth ffôn y gallwch ei ddefnyddio os nad ydych chi ar-lein.
Siaradwch â rhywun os ydych yn cael problemau
Os ydych chi'n cael trafferth talu'ch biliau, siaradwch â'ch cyflenwr cyn gynted ag y gallwch. Byddan nhw'n gadael i chi wybod sut y gallan nhw eich helpu chi i osgoi mynd i ddyled.
Os ydych eisoes mewn dyled, efallai y byddwch yn gallu cytuno ar gynllun ad-dalu i dalu'ch ôl-ddyledion neu os oes gennych fesurydd rhagdalu.
Os nad ydych eisiau delio'n uniongyrchol â'ch cyflenwr, gallwch ofyn i gynghorydd gysylltu â nhw ar eich rhan.
Mwy o wybodaeth ddefnyddiol
Taflen Ffeithiau 1w: Costau gwresogi yng Nghymru
Taflen Ffeithiau 82: Y fargen ynni gorau
Canllaw Gwybodaeth L57w: Yn gynnes dros y gaeaf
Canllaw Gwybodaeth 30: Arbed ynni, talu llai
Ar hyn o bryd mae'r dogfennau a restrir uchod nad oes ganddynt hypergyswllt ar gael yn Saesneg yn unig – gellir gweld copïau ar fersiwn iaith Saesneg ein gwefan. Cysylltwch â ni os ydych yn dymuno trafod hyn neu os hoffech chi fersiwn Gymraeg.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar y rhif ffôn 0300 303 44 98.