Pensiwn y Wladwriaeth
Pensiwn y Wladwriaeth
Mae Pensiwn y Wladwriaeth yn daliad rheolaidd a wneir i chi gan y llywodraeth unwaith y byddwch yn cyrraedd oedran sydd yn golygu eich bod yn ddigon hŷn i fedru ei dderbyn.
Mae dau fath o Bensiwn y Wladwriaeth. Mae’r ddau yn ymwneud gyda’ch cofnod cyfrannu ar gyfer eich Yswiriant Gwladol.
Pa fathau o Bensiwn y Wladwriaeth sydd i’w cael?
Pa Bensiwn y Wladwriaeth fyddwn i'n ei hawlio?
Pam bod dau Bensiwn y Wladwriaeth?
Pryd fydda i'n cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth?
Pa fathau o Bensiwn y Wladwriaeth sydd i’w cael?
Yn 2016, daeth Pensiwn y Wladwriaeth Newydd i rym, gan ddisodli'r Pensiwn Gwladol Sylfaenol a oedd eisoes yn bodoli. Bydd pa bensiwn sy'n berthnasol i chi yn dibynnu os wnaethoch gyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth cyn i’r Pensiwn y Wladwriaeth Newydd ddod i rym - gweler isod.
Pensiwn y Wladwriaeth sylfaenol
Pa Bensiwn y Wladwriaeth fyddwn i'n ei hawlio?
Defnyddiwch ein siart i ddarganfod pa bensiwn y dylech ei hawlio:
Rhyw |
Dyddiad geni |
Pensiwn |
Benyw |
Cyn 6 Ebrill 1953 |
Pensiwn Sylfaenol |
Benyw |
Ar ôl 5 Ebrill 1953 |
Pensiwn Newydd |
Gwryw |
Cyn 6 Ebrill 1951 |
Pensiwn Sylfaenol |
Gwryw |
Ar ôl 5 Ebrill 1951 |
Pensiwn Newydd |
Pam bod dau Bensiwn y Wladwriaeth?
Cyflwynwyd Pensiwn y Wladwriaeth Newydd yn 2016 i gymryd lle Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol. Er mwyn atal dryswch, mae'r rhai sydd eisoes yn gynnwys ar gyfer derbyn Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol yn parhau i'w dderbyn.
Dim ond hawlwyr newydd sydd yn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth Newydd. Mewn amser bydd y Pensiwn y Wladwriaeth Sylfaenol yn cael ei ddileu'n llwyr.
Pryd fydda i'n cyrraedd oedran derbyn Pensiwn y Wladwriaeth?
O fis Ebrill 2021, mae angen i bawb bod yn 66 oed er mwyn derbyn Pensiwn y Wladwriaeth (yn y dyfodol mae disgwyl i’r rhif i fynd yn uwch, er na fydd hyn yn dechrau tan fis Mai 2026).
Gwiriwch bryd y byddwch yn derbyn eich Pensiwn ar GOV.UK gan ddefnyddio cyfrifiannell Pensiwn y Wladwriaeth y llywodraeth.
Ni fydd Pensiwn y Wladwriaeth yn cael ei dalu i chi yn awtomatig. Ychydig fisoedd cyn i chi gyrraedd yr oedran penodol, byddwch yn derbyn llythyr yn son am eich opsiynau. Bydd ganddoch ddewis i hawlio neu i ohirio er mwyn derbyn mwy o arian yn y dyfodol.
Gwybodaeth ychwanegol
Darllenwch ein Canllaw Gwybodaeth 53: Pensiwn y Wladwriaeth
Darllenwch ein Taflenni Ffeithiau manylach 19: Pensiwn y Wladwriaeth
Ar hyn o bryd mae'r dogfennau a restrir uchod nad oes ganddynt hypergyswllt ar gael yn Saesneg yn unig – gellir gweld copïau ar fersiwn iaith Saesneg ein gwefan. Cysylltwch â ni os ydych yn dymuno trafod hyn neu os hoffech chi fersiwn Gymraeg.
Gwneud cais am eich Pensiwn ar-lein
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar 0300 303 44 98.