Taliad Tywydd Oer
Os ydych chi'n cael budd-daliadau penodol, efallai y byddwch yn gymwys i gael Taliadau Tywydd Oer pan fydd y tywydd yn oer iawn.
Beth yw Taliad Tywydd Oer?
Mae Taliadau Tywydd Oer yn cael eu talu pan mae tywydd oer iawn yn yr ardal ble rydych chi'n byw.
Mae hyn yn cael ei ddiffinio gan y Swyddfa Dywydd fel pan mae'r tymheredd cyfartalog wedi bod' neu mae disgwyl iddo fod' 0°C neu is am 7 diwrnod yn olynol.
Mae'r Swyddfa Dywydd yn defnyddio gorsafoedd tywydd penodol sy'n darogan ac yn cofnodi tymheredd.
Faint yw Taliad Tywydd Oer?
Rydych yn cael £25 yr wythnos am bob cyfnod o 7 diwrnod o dywydd oer. Mae hyn ond yn berthnasol rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth bob blwyddyn.
Ydw i'n gymwys am y Taliad Tywydd Oer?
Mae angen i'r tymheredd cyfartalog yn eich ardal chi fod wedi bod yn 0°C neu lai am saith diwrnod yn olynol. Gallwch wirio tymheredd eich ardal drwy ddefnyddio gwiriwr cod post taliadau tywydd oer y DWP. Mae angen i chi hefyd fod yn derbyn budd-daliadau penodol, fel un o'r canlynol:
- Credyd Pensiwn
- Cymorth Incwm
- Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm
- Credyd Cynhwysol.
Sut alla i hawlio Taliad Tywydd Oer? (Heading)
Os ydych yn gymwys am Daliad Tywydd Oer, byddwch yn cael eich talu'n awtomatig ar ôl pob cyfnod o 7 diwrnod o dywydd oer. Dylech dderbyn eich taliad o fewn 14 diwrnod gwaith.
Cysylltwch â'ch canolfan bensiwn neu swyddfa Canolfan Byd Gwaith os credwch y dylech fod wedi derbyn Taliad Tywydd Oer ond heb wneud hynny. Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, cysylltwch â llinell gymorth Credyd Cynhwysol.