Lwfans Gweini
Lwfans Gweini
Oes gennych chi salwch neu anabledd sy'n golygu bod angen help ychwanegol arnoch chi gartref? Os felly, efallai y byddwch yn gallu cael budd-dal o'r enw Lwfans Gweini.
Beth yw'r Lwfans Gweini?
Budd-dal ar gyfer pobl hŷn yw Lwfans Gweini. Mae ar gyfer pobl allai fod angen cymorth ychwanegol i fod yn annibynnol gartref, oherwydd salwch neu anabledd.
I fod yn gymwys bydd yn rhaid i chi fod yn hŷn nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth (ym mis Ebrill 2021 mae hyn yn golygu bydd dynion a menywod yn gorfod bod yn hŷn na 66 oed).
Os ydych yn iau nag oedran Pensiwn y Wladwriaeth, mae'n bosib y gallwch hawlio budd-dal gwahanol o'r enw Taliad Annibyniaeth Personol.
Faint o arian gallwn i'w dderbyn?
Fe allech chi dderbyn:
£72.65 yr wythnos os ydych chi angen help naill ai yn y dydd neu yn y nos
£108.55 yr wythnos os ydych angen help yn y dydd ac yn y nos.
Mae'r cyfraddau hyn yn berthnasol o Ebrill 2024 hyd fis Mawrth 2025.
Fel arfer, mae'r budd-dal yn cael ei dalu bob 4 wythnos.
Sut gallai Lwfans Presenoldeb fy helpu i?
Gall ychydig o arian ychwanegol fod yn werthfawr. Gallwch ei ddefnyddio mewn unrhyw ffordd yr hoffech ar gyfer eich anghenion er mwyn aros yn annibynnol yn eich cartref eich hun.
- Does dim rhaid gwario'r arian ar ofalwr.
- Mae rhai elfennau eraill i Lwfans Gweini hefyd:
- Ni fydd hawlio Lwfans Gweini yn lleihau unrhyw incwm arall yr ydych yn ei hawlio.
- Mae'n ddi-dreth.
- Os ydych yn derbyn Lwfans Gweini, efallai y bydd gennych hawl i dderbyn budd-daliadau eraill, megis Credyd Pensiwn, Budd-dal Tai neu Ostyngiad Treth Cyngor. Mae’n bosib y byddwch yn medru cynyddu faint rydych yn hawlio ar gyfer y budd-daliadau hyn os ydych chi eisoes yn eu derbyn.
Nid yw'r Lwfans Gweini yn cynnwys prawf modd felly does dim ots faint o incwm a chynilion sydd gennych.