Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor
Mae Treth y Cyngor yn dreth orfodol sy'n seiliedig ar eiddo a dalwyd i awdurdodau lleol.
Budd-dal sy'n cael ei roi gan awdurdodau lleol yng Nghymru i helpu pobl sydd ar incwm isel, neu'n hawlio rhai budd-daliadau, yw'r Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor, i dalu rhywfaint neu'r cyfan o'u bil Treth y Cyngor.
Faint o arian fydda i'n gael?
Mae swm y Gostyngiad Treth Cyngor y byddwch yn ei dderbyn yn dibynnu ar sawl ffactor, gan gynnwys:
- pa fuddion rydych yn eu derbyn
- eich oedran
- eich incwm
- eich cynilion
- gyda phwy rydych chi'n byw
- faint o Dreth Cyngor rydych chi'n ei dalu.
Mae'n bosib y cewch fwy o Ostyngiad Treth Cyngor os cewch fudd-dal anabledd neu ofalwyr.
Os byddwch yn derbyn y Rhan Credyd Gwarant o Gredyd Pensiwn, efallai y byddwch hyd yn oed yn cael eich Treth Cyngor yn cael ei thalu'n llawn. Os nad ydych yn cael Credyd Gwarant ond mae gennych incwm isel a llai na £16,000 o gynilion, efallai y cewch gymorth o hyd.
Mae pensiynwyr dal angen talu Treth y Cyngor, ond mae'n bosib y cawn nhw ostyngiad mewn rhai amgylchiadau fel os ydyn nhw'n byw ar eu pen eu hunain.
Ydw i'n gymwys?
Sut mae hawlio o'r Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor?
Gweinyddir Gostyngiad Treth Gyngor gan eich Awdurdod Lleol felly dylech gysylltu â nhw i wneud cais.