Rydym yn cynnig cefnogaeth gydag amrywiaeth o faterion, gan gynnwys; Buddion Lles, Gofal Cymdeithasol, Pensiynau, Dementia, Profedigaeth, Aros yn Ddiogel, Anabledd, Cartrefi Gofal, Hawliau, Gwasanaethau Lleol, Help yn y Cartref, Ewyllysiau ac Atwrneiaeth, Tai, Sgamiau, Gwaith a Dysgu, Ymddeoliad, Iechyd, Gweithgaredd Corfforol, Arian, Arbed Ynni, Cartref a Chymuned, Teithio a Ffordd o Fyw.
Os ydych chi eisiau siarad â rhywun yn uniongyrchol, yn Gymraeg neu Saesneg, ffoniwch ni ar 0300 303 44 98 ar y gyfradd leol (ar agor rhwng 9:00am a 4:00pm, Llun - Gwener). Anfonwch e-bost atom i'r cyfeiriad e-bost advice@agecymru.org.uk
Mae'r galw ar ein llinell gyngor yn anhygoel o uchel ar hyn o bryd; mae’r cyfnod hwn yn gyfnod pryderus i nifer o bobl. Mae gennym fwy o gapasiti ar ein llinell ffôn ond mae'n bosib y byddwch yn aros ychydig cyn siarad gyda rhywun. Byddwch yn amyneddgar, byddwn yn paratoi i siarad gyda mor gyflym ag y gallwn.
Mae'r holl wybodaeth a chyngor a ddarparwn ar y wefan yn rhad ac am ddim ac yn gwbl annibynnol, yn ogystal â'n Llinell Gyngor Genedlaethol.
Ond mae'r galw'n cynyddu. Rydym yn boblogaeth sy'n heneiddio ac mae mwy o bobl nag erioed yn dod atom yn chwyilio am gefnogaeth, a dyna pam mae angen i ni ofyn am help.
Os ydych chi'n medru, gall rhodd fach heddiw ein helpu i gyrraedd hyd yn oed mwy o bobl hŷn ble bynnag mae'r angen mwyaf.
Am fwy o wybodaeth ffoniwch Gyngor Age Cymru ar y rhif ffôn 0300 303 44 98.