Rydym yn defnyddio cwcis i roi'r profiad gorau i chi. Drwy barhau i ddefnyddio'r safle hwn, rydych yn cytuno i'n polisi. Darllenwch fwy am sut rydym yn defnyddio cwcis a darganfod sut y gallwch chi newid gosodiad cwcis eich porwr
Skip to content
Cyfrannwch

Prosiect Hawliau Dynol

Rydym yn cydnabod nad yw’r wefan gyfan ar gael yn Gymraeg ar hyn o bryd ond rydym yn gweithio'n galed i newid hyn yn fuan iawn. Wrth i ni heneiddio, mae gennym hawl o hyd i'r un hawliau dynol y cawsom ein geni gyda nhw. Weithiau gall y pwnc hawliau dynol swnio'n haniaethol neu'n academaidd, ond bob dydd rydyn ni'n profi sefyllfaoedd sy'n ymwneud â'n hawliau dynol.

Ariannwyd Age Cymru o Ionawr i Orffennaf 2022 i ddarparu prosiect hawliau dynol mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Pwrpas y prosiect hwn oedd codi ymwybyddiaeth o hawliau dynol, ac ymgysylltu â phobl hŷn ledled Cymru i ymgorffori'r neges bod pobl hŷn yn ddinasyddion ac yn cyfrannu tuag at y gymdeithas. Dylent fod yn medru disgwyl bod eu hawliau dynol yn cael eu cynnal.

Yn ystod cyfnod y prosiect rydym wedi:

  • creu Paid â Dechrau, y ffilm fer, animeiddiedig y gallwch ei gweld ar frig y dudalen hon. Fe wnaethon ni weithio gyda'r artistiaid Jon Ratigan ac Emma Prentice i animeiddio cyfweliadau gyda chwech o bobl hŷn ar hyd a lled Cymru, gan eu galluogi i edrych ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw
  • datblygu pecyn cymorth eiriolaeth sydd yn medru cael ei ddefnyddio gan bobl hŷn ac unrhyw un sy'n eirioli ar ran pobl hŷn. Gobeithiwn ei fod yn helpu i gefnogi trafodaethau gwybodus ynghylch hawliau dynol mewn sgyrsiau am iechyd, gofal cymdeithasol, a thai. Gallwch lawrlwytho'r pecyn cymorth hwn yn Gymraeg.
  • rhannu ein hymgyrch 'Hawliau Gydol Oes yw Hawliau Dynol' ledled Cymru, gan gynnwys ar ochrau bysiau, ar fagiau fferylliaeth, ac mewn ystafelloedd aros mewn ysbytai
  • siarad â phobl am hawliau dynol mewn digwyddiadau ledled Cymru, gan gynnwys yn Ffair Iechyd Cymunedau Ethnig, a'r Eisteddfod
    hybu'r llyfrynnau a gyd-grëwyd gan Ofal Cymdeithasol Cymru a Llywodraeth Cymru, Gwneud Hawliau i Weithio i Bobl Hŷn. Mae'r ddogfen hon ar gael yn Gymraeg, Saesneg, ac Iaith Arwyddion Prydain. Hefyd, mae canllawiau ar gael am ddeall eich hawliau fel person hŷn, sy'n cynnwys astudiaethau achos.

Yn ôl ein Prif Weithredwr, Victoria Lloyd, "Mewn sawl maes yn y gymdeithas fel iechyd a gofal cymdeithasol ac wrth lunio ein cymunedau lleol, nid yn unig y mae hawliau pobl hŷn yn aml yn cael eu hanwybyddu, ond hefyd nid yw llawer o bobl hŷn yn ymwybodol o'u hawliau.

Rydyn ni'n falch o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o hawliau ymhlith pobl hŷn a'u helpu i ddeall ble a phryd y gellir eu defnyddio. Mae gan bob un ohonom yr hawl i fyw gydag urddas, i wneud ein dewisiadau ein hunain, a sicrhau bod ein barnau yn cael eu parchu."

Er bod y prosiect wedi dod i ben yn swyddogol, mae parch at hawliau dynol yn rhan o bopeth a wnawn. Os ydych chi'n rhan o grŵp ac os hoffech i ni ddod i siarad â chi am hawliau dynol, cysylltwch â ni drwy e-bostio HumanRights@agecymru.org.uk.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am hawliau dynol: Human rights - why they're important | Age Cymru (ageuk.org.uk)

Os ydych chi eisiau siarad â rhywun yn uniongyrchol am eich hawliau dynol, gallwch ffonio llinell gyngor Age Cymru. Gallwch siarad yn Gymraeg neu Saesneg, ffoniwch ni ar 0300 303 44 98. Bydd tal ar gyfradd leol (ar agor rhwng 9:00am a 4:00pm, Llun - Gwener). Anfonwch e-bost atom drwy e-bostio advice@agecymru.org.uk.

Pecyn Cymorth Hawliau Dynol

 

Last updated: Ebr 24 2024

Dewch yn rhan o’n stori

Cofrestrwch heddiw

Back to top