Ynglŷn â Phrosiect 360°
Mae prosiect 360° yn brosiect partneriaeth genedlaethol arloesol a helaeth lle mae Age Cymru'n gweithio ochr yn ochr â'r elusen gydweithredol Woody's Lodge ac aelodau Age Alliance Wales.
Gall cyn-bersonél y lluoedd arfog gael anawsterau ymdopi â bywyd sifil ac, yn arbennig, cael mynediad at yr iechyd a'r gofal cymdeithasol sydd ei angen arnynt i fyw bywyd bodlon. Nod Prosiect 360° yw sicrhau bod gwasanaethau a ddarperir gan aelodau Age Alliance Cymru yn diwallu anghenion cyn-filwyr hŷn, a bod y cymorth cywir yn cael ei roi i gyn-filwyr hŷn drwy ddarpariaeth 360°. Bydd y prosiect hefyd yn dod â gwasanaethau cyfunol Age Cymru ac Age Alliance Wales i'r cyn-filwyr hynny sy'n mynychu Woody's Lodge mewn amgylchedd lle maent yn teimlo'n gyfforddus ac yn gyfarwydd, ac yn datblygu ail gyfleuster yng Ngogledd Cymru i efelychu'r un peth.
Cymhwysedd
I gael eich cefnogi gan y prosiect mae'n rhaid eich bod wedi bod yn aelod o wasanaethau arfog y DU, milwyr wrth gefn, neu wedi gweld gwasanaeth gweithredol yn y llynges fasnachol am un diwrnod neu fwy, ac yn 65 oed neu'n hŷn. Gall y project hefyd ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i deuluoedd a gofalwyr cyn-filwyr cymwys.
Ariennir y prosiect gan Gronfa Cyn-filwyr Oed a gychwynnwyd gan y Canghellor drwy ddefnyddio arian LIBOR, ac mae ei buddiolwyr yn gyn-filwyr milwrol yng Nghymru sy'n 65 oed neu'n hŷn.