Beth i'w wneud pan fydd y tywydd yn wael
Yn ffodus, nid yw Cymru’n profi tywydd gwael iawn yn rhy aml. Ond mae'n werth sicrhau eich bod yn barod os ydyn ni’n disgwyl tywydd garw, yn enwedig stormydd y gaeaf, rhew neu eira.
Camau syml i oroesi’r gaeaf
- Os oes tywydd gwael ar y ffordd, gwnewch yn siŵr bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch. Gwiriwch fod gennych chi ddigon o feddyginiaeth a bwyd rhag ofn ei bod hi'n anoddach gadael y tŷ. Gallai potel o ddŵr fod yn ddefnyddiol os bydd problem gyda’ch cyflenwad o ddŵr.
- Cadwch ffaglau o gwmpas eich cartref rhag ofn bod toriad pŵer. A batris sbâr hefyd.
- Cadwch rifau a allai fod yn ddefnyddiol mewn argyfwng gerllaw. Ffoniwch 105 os bydd toriad pŵer - gallwch roi gwybod am doriad pŵer a chael gwybodaeth a chyngor os oes un yn eich ardal chi. Gallwch hefyd gofrestru gyda'ch cyflenwr a byddant yn eich ffonio os bydd toriad pŵer.
- Cymerwch ofal ychwanegol os yw'r ddaear yn llithrig. Gwisgwch esgidiau gyda gafael da ac ystyriwch gadw cymysgedd o halen a thywod gerllaw er mwyn grudio llwybrau. Fe allech chi ofyn i'ch cymdogion am help i glirio llwybrau neu ddreifiau mewn tywydd garw - mae'r rhan fwyaf o bobl yn fwy na pharod i helpu.
- 5. Cynlluniwch ymlaen llaw wrth yrru. Ceisiwch osgoi mynd allan yn y car mewn tywydd gwael os yn bosibl, a gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn cyngor ar amodau gyrru yn eich ardal chi. Os oes angen i chi fynd allan, paciwch y pecyn canlynol rhag ofn y byddwch yn mynd yn sownd yn rhywle: blancedi, potel o ddŵr neu fflasg o ddiod boeth, rhai byrbrydau, rhaw, de-icer neu rywbeth i grafu iâ a rhew o’ch car, ffôn symudol a gwefrydd.
Helpu person hŷn y gaeaf hwn
Y gaeaf hwn, yn fwy nag erioed, gadewch i ni ddod at ein gilydd a gofalu am ein gilydd. Mae digon o bethau syml ac ymarferol y gallwn eu gwneud i helpu ein gilydd y gaeaf hwn.
Mwy o wybodaeth
Rydym yma i helpu
Gall Cyngor Age Cymru gynnig cymorth a chyngor. Os hoffech siarad â rhywun yn uniongyrchol, yn Gymraeg neu Saesneg, ffoniwch ni ar 0300 303 44 98 ar gyfradd leol (Ar agor rhwng 9:00am a 4:00pm, dydd Llun i ddydd Gwener). E-bostiwch ni yma: advice@agecymru.org.uk