Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Gwympo
16 Medi – 20 Medi 2024
Fel cadeirydd y Tasglu Cwympiadau yng Nghymru, mae Age Cymru yn gweithio mewn partneriaeth ag Age Connects Cymru, a Gofal a Thrwsio Cymru i arwain ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd am gwympiadau.
Taflen newydd i helpu pobl hŷn i leihau eu risg o gwympo
Gwyddom nad yw cwympo drosodd yn rhan anochel o heneiddio, felly i nodi wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth Cwympiadau eleni, mae'r Tasglu wedi lansio taflen newydd ar gyfer pobl hŷn. Mae'r daflen hon yn helpu pobl i adnabod beth allai gynyddu eu risg o gwympo a'u grymuso gyda gwybodaeth er mwyn iddynt fedru gweithredu.
Os ydych chi'n wasanaeth neu'n sefydliad sy'n gweithio gyda phobl hŷn, mae croeso i chi ddefnyddio'r daflen i'w rhannu gyda phobl rydych chi'n eu cefnogi.
Archebwch eich copi o'n taflen am ddim er mwyn lleihau eich risg o gwympo
Gall bobl o bob oedran gwympo, ond wrth i ni fynd yn hŷn, rydyn ni'n fwy tebygol o gael niwed. Mae ein taflen yn eich helpu i weld beth allwch chi ei wneud heddiw i leihau'ch risg.
Adnoddau Wythnos Ymwybyddiaeth Cwympiadau