Mae Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i ddatblygu modelau gwasanaeth sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn i nodi, ac i ddiwallu'n well anghenion gofalwyr hŷn a gofalwyr y bobl sy'n byw gyda dementia, a ariennir gan Grant Trydydd Sector Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Bydd y prosiect yn cefnogi adnabod gofalwyr hŷn yn gynnar i ddarparu gwybodaeth a chyngor amserol sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, galluogi gofalwyr hŷn i ddylanwadu ar bolisi, dylunio gwasanaethau a chyflwyno a gwneud penderfyniadau drwy sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed, ac yn diwallu anghenion gofalwyr hŷn, gofalwyr pobl sy'n byw gyda dementia yn well, a gofalwyr pobl sydd bellach wedi symud i fyw mewn cartref gofal.