Fforwm Ymgynghorol
Sefydlwyd Fforwm Ymgynghorol Age Cymru yn 2011, wedi ymgynghoriad helaeth ar draws Cymru.
Ein gweledigaeth yw cymdeithas sy'n cynnig y profiad gorau i bawb yng Nghymru yn hwyrach mewn bywyd. Mae pobl hŷn yn cael eu gwerthfawrogi, eu cynnwys a'u galluogi i lywio penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau. Mae'r Fforwm Ymgynghorol yn chwarae rhan allweddol yn Age Cymru ac yn helpu i sicrhau bod lleisiau pobl hŷn yn cael eu clywed ar bob lefel ein sefydliad.
Y Fforwm Ymgynghorol
- darparu arweiniad mewn perthynas â gweithgareddau allweddol Age Cymru;
- cyfrannu at ddigwyddiadau a gweithgareddau Age Cymru gan gynnwys cynadleddau, datblygu polisi, cyhoeddiadau, ac ati;
- cynnig adborth am gyfeiriad strategol cyffredinol a gweithgareddau gweithredol Age Cymru.
Aelodaeth
Mae gan y Fforwm Ymgynghorol aelodaeth eang ac amrywiol i sicrhau bod ystod o safbwyntiau a phrofiad rhanddeiliaid a defnyddwyr gwasanaeth ar gael i'r elusen. Mae'r aelodaeth yn sicrhau cyfranogiad sefydliadau, grwpiau a phobl hŷn unigol 50+ oed o bob cwr o Gymru ac mae'n cynnwys pobl sy'n gallu gwneud cyfraniadau o safbwyntiau cenedlaethol, rhanbarthol, lleol ac unigol. Yn ogystal â'r mannau a ddyrannwyd ar gyfer grwpiau cenedlaethol neu ranbarthol penodol, cafodd nifer o aelodau unigol eu recriwtio drwy apwyntiad cyhoeddus. Mae gan y Fforwm Ymgynghorol uchafswm o 40 o aelodau.
Mae cadeirydd etholedig y Fforwm Ymgynghorol hefyd yn gweithredu fel ymddiriedolwr ar Fwrdd Age Cymru.
Gweithgareddau
Mae'r Fforwm Ymgynghorol yn cyfarfod 2 - 3 gwaith y flwyddyn mewn lleoliadau ledled Cymru ac ar-lein. Yn ogystal â Chadeirydd yr Ymddiriedolwyr, mae un o Ymddiriedolwyr Bwrdd Age Cymru yn mynychu'r Fforwm Ymgynghorol i weithredu fel cyswllt ychwanegol. Ym mhob cyfarfod mae'r agenda yn cynnwys un neu ddwy eitem bolisi fawr i'w trafod, a ddewiswyd gan Age Cymru.
Ymunwch â'r Fforwm Ymgynghorol
Hoffech chi ein helpu i greu Cymru sy'n gefnogol o oedran? Rydym yn recriwtio aelodau newydd 50+ oed sy'n byw ledled Cymru ac sy’n barod i rannu eu profiadau a chyfrannu at bolisïau Age Cymru. Gallwch gymryd rhan wyneb yn wyneb ac ar-lein. Os oes gennych chi ddiddordeb, byddem wrth ein bodd pe baech yn cysylltu â ni. I gael gwybodaeth ychwanegol, cysylltwch â Harriet Horn drwy ffonio 029 2043 1533 neu drwy e-bostio harriet.horn@agecymru.org.uk.
Gallwch hefyd lawrlwytho pecyn recriwtio gan ddefnyddio’r dolenni isod.