Gwybodaeth am ein Rhaglen Eiriolaeth Edau Euraidd
Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 Rhan 10 Cod Ymarfer (Eiriolaeth)
Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ar 6 Ebrill 2016. Mae’r Ddeddf yn cael effaith fawr ar y mathau o wasanaethau sy'n cael eu darparu gan Awdurdodau Lleol a sut maen nhw'n cael eu darparu yng Nghymru. Mae'n rhoi pobl wrth wraidd darpariaeth gwasanaethau. Mae hefyd yn golygu bod yn rhaid i awdurdodau lleol, o dan rhai amgylchiadau, sicrhau bod gan unigolyn fynediad at eiriolaeth.
Mae Eiriolaeth Broffesiynol Annibynnol yn wasanaeth sy'n gallu cefnogi rhywun i gymryd rhan lawn mewn penderfyniadau ynglŷn â'u lles a sicrhau bod eu barn, dymuniadau a theimladau'n cael eu clywed, eu parchu a'u hystyried. Mae eiriolaeth yn cefnogi pobl i gadarnhau eu hawliau, i fynegi eu barn, i wneud penderfyniadau am bethau sy'n effeithio arnyn nhw, ac os oes angen mae eiriolaeth yn cynrychioli barn pobl mewn cyfarfodydd.
Ariannwyd y Rhaglen Eiriolaeth Edau Euraidd gan Lywodraeth Cymru am bedair blynedd (2016 i 2020) i redeg ochr yn ochr â'r gwaith o weithredu Rhan 10 (Eiriolaeth) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, ac i’w gefnogi.
Prif nodau'r rhaglen oedd
- Cefnogi comisiynu eiriolaeth broffesiynol annibynnol drwy ddull cynaliadwy, strategol
- Gwella argaeledd gwasanaethau eiriolaeth i oedolion ledled Cymru
- Gwella lles unigolion trwy eiriolaeth a rhoi llais cryfach iddynt
Mae’r rhaglen genedlaethol hon yn
- Cefnogi timau rheoli/comisiynu iechyd strategol a gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol rheng flaen wrth ddeall eu cyfrifoldebau ynghylch eiriolaeth o dan y Ddeddf.
- Cefnogi'r gwaith o ddatblygu modelau cynaliadwy ar gyfer darparu gwasanaethau eirioli.
- Gweithio gyda darparwyr gwasanaethau newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli er mwyn sicrhau eu bod yn barod ar gyfer prosesau comisiynu eiriolaeth statudol.
- Crëwyd fframwaith er mwyn annog cydweithio rhwng cyrff statudol a darparwyr gwasanaethau. Bydd y fframwaith yn sicrhau eu bod yn defnyddio adnoddau'n fwy effeithlon er mwyn cefnogi canlyniadau llesiant.
- Gweithio gyda grwpiau cynrychioladol o ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr i godi ymwybyddiaeth o eiriolaeth o bob math, wrth arfer rheolaeth dros eu canlyniadau lles.
- Hyrwyddo dulliau cadarnhaol o les a chefnogi gwelliannau i ddiogelu drwy roi llais cryfach i bobl â nodweddion gwarchodedig.
Beth wnaeth pobl elwa o'r rhaglen?
Ar ddiwedd y rhaglen mae gan yr holl randdeiliaid:
- mwy o ddealltwriaeth a gwybodaeth am werth eiriolaeth
- offer cyfathrebu i hyrwyddo'r angen am ddatblygu gwasanaethau eiriolaeth ac i nodi lle y gellir blaenoriaethu eiriolaeth orau
- y gallu i gymhwyso arferion gorau mewn eiriolaeth fel rhan annatod o fwriadau comisiynu.