Rhwydwaith eiriolaeth
Rhwydwaith Eiriolaeth Cenedlaethol ar gyfer Oedolion yng Nghymru
Mae'r Rhwydwaith Eiriolaeth Cenedlaethol ar gyfer oedolion yng Nghymru yn hyrwyddo ac yn cefnogi gwasanaeth eirioli o ansawdd i bobl yng Nghymru.
Diben
- Cyfrannu at ddatblygu polisi ac ymgyrchu dros eiriolaeth yng Nghymru drwy adnabod materion allweddol.
- Er mwyn cael dealltwriaeth gyffredin o rôl eiriolaeth ac i ddatblygu, gweithredu a monitro safonau gwasanaeth eiriolaeth.
- Rhannu arferion gorau drwy ddatblygu sianeli cyfathrebu effeithiol yng Nghymru a thu hwnt.
- Cynnig cefnogaeth ar y cyd a rhannu gwybodaeth ac arfer gorau.
- Cydweithio ac ymgynghori ar fentrau perthnasol sy'n effeithio ar arferion eiriolaeth da.
- Creu cyfleoedd partneriaeth i aelodau gydweithio.
- Bod yn gynhwysol ac yn agored i bawb sy'n bodloni'r meini prawf aelodaeth.
Mae'r rhwydwaith yn cyfarfod yn rhithiol ar hyn o bryd ac os ydych yn ddarparwr gwasanaethau eiriolaeth ac os hoffech ragor o wybodaeth am ddod yn aelod neu am unrhyw un o'r rhwydweithiau eiriolaeth rhanbarthol cysylltwch â ni