Mae HOPE (Helpu eraill i gymryd rhan ac ymgysylltu) yn brosiect partneriaeth rhwng; Age Cymru, partneriaid lleol Age Cymru a phartneriaid Age Connects Wales ledled Cymru. Mae HOPE yn darparu eiriolaeth annibynnol ar gyfer pobl hŷn (50+) a gofalwyr ledled Cymru.
Mae HOPE yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru o dan y Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy tan ddiwedd mis Mawrth 2025.
Mae'r project cyffrous hwn yn cefnogi pobl i; ymgysylltu, cymryd rhan, dod o hyd i wybodaeth, sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed, deall eu hawliau, gwneud dewisiadau, rhannu profiadau, codi ymwybyddiaeth o eiriolaeth, a datblygu sgiliau a gwybodaeth.