Arolygon eiriolaeth Cymru
Arolygon eiriolaeth yn canfod toriadau hawliau dynol eang ymhlith pobl fregus
Mae pobl ledled Cymru, gan gynnwys y rhai sy'n byw mewn cartrefi gofal, wedi gweld eu hawliau dynol yn cael eu torri a'u mynediad at eiriolaeth, iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i atal yn ystod y pandemig. Dyma a ddywedir gan ddau arolwg o eiriolwyr proffesiynol wedi'u lleoli yng Nghymru.
Mae'r adroddiadau wedi cael eu llunio ar y cyd gan wasanaethau eiriolaeth ledled Cymru yn dilyn arolygon a gynhaliwyd ym mis Mehefin 2020 a 2021 yn ystod cyfnodau clo yn y DU.
Roedd yr eiriolwyr, sydd mewn sefyllfa unigryw i adnabod gwendidau mewn systemau a cham-drin hawliau, nid yn unig yn poeni am rai o'r cyfyngiadau a ddaeth yn sgil y pandemig. Roeddent hefyd yn poeni am rhai o'r rhagfarnau tuag at bobl fregus.
Dywedodd Natasha Fox, Eiriolaeth Gorllewin Cymru: "Mae canfyddiadau'r adroddiadau hyn ledled y sector yn ysgytwol ac yn dangos realiti plaen yr anghydraddoldebau sy'n gwaethygu i rai o aelodau mwyaf bregus ein cymunedau ledled Cymru. Mae eiriolwyr a'u sefydliadau wedi cydweithio er mwyn darparu tystiolaeth am effaith pandemig Covid-19 ar y bobl rydym yn eu cefnogi."
Canfyddiadau penodol
Canfu'r arolygon nad yw anghenion pobl yn cael eu diwallu na hyd yn oed eu hasesu er nad yw rhwymedigaethau cyfreithiol ar awdurdodau lleol wedi newid. Roedd methiannau cyson i weithredu'r Ddeddf Galluedd Meddyliol. Roedd hyn yn golygu nad oedd pobl yn gwrando ar bobl fregus, a roedd eu dymuniadau yn cael eu hanwybyddu.
Dywedodd ein Pennaeth Diogelu, Louise Hughes, a helpodd i gynhyrchu'r adroddiad: "Mae pobl mewn mwy o berygl o gael eu cam-drin neu niwed oherwydd effaith y cyfyngiadau, mae gwasanaethau hanfodol yn cael eu dileu, a mesurau diogelu yn cael eu hanwybyddu.”
“Tened craidd o eiriolaeth yw unioni anghydraddoldeb fel bod hawliau pobl yn cael eu cadarnhau a'u bod yn cael eu parchu fel unigolion. Dylai pobl fod yn gwrando ar unigolion o bob math, ac yn ceisio eu deall, waeth pwy ydyn nhw na beth yw eu cyflwr iechyd. Mae gan eiriolaeth rôl hanfodol o ran gwella iechyd a lles pobl na ddylai cael eu anwybyddu."
Mae'r adroddiadau'n galw am flaenoriaeth frys i atgyfnerthu'r hawliau a gwella cefnogaeth pobl sy'n dibynnu ar ofal cymdeithasol. Mae angen consensws gwleidyddol a chyhoeddus newydd fel ein bod oll yn cael ein cefnogi i fyw bywydau llawn yn ein cymunedau.
Adroddiadau
Gwerthfawrogi Lleisiau yng Nghymru: Diogelu Hawliau yn ystod y Pandemig a Thu Hwnt 2020