Mae HOPE yn brosiect partneriaeth rhwng Age Cymru, partneriaid lleol Age Cymru a phartneriaid Age Connects Wales ledled Cymru. Bydd HOPE yn darparu eiriolaeth annibynnol i bobl hŷn (50+) a gofalwyr ledled Cymru.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru o dan y Grant Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy tan ddiwedd mis Mawrth 2025.
Ariannwyd Rhaglen Edau Euraidd Eiriolaeth gan Lywodraeth Cymru am bedair blynedd i redeg ochr yn ochr â chefnogi gweithredu Rhan 10 (Eiriolaeth) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Mae'r Prosiect Eiriolaeth Dementia yn darparu cymorth eiriolaeth annibynnol, broffesiynol i unrhyw un 18+ sydd a diagnosis o ddementia ledled Cymru.
Caiff Eiriolaeth Dementia ei ariannu gan grant gan Lywodraeth Cymru tan ddiwedd mis Mawrth 2026.