Camdriniaeth ddomestig
Diffinnir camdriniaeth ddomestig gan y Swyddfa Gartref fel "Digwyddiad neu batrwm o ddigwyddiadau o ymddygiad rheolaethol, gorfodaethol neu fygythiol, trais neu gam-drin... gan rywun sydd, neu sydd wedi bod, yn bartner agos neu aelod o'r teulu, beth bynnag fo'i ryw neu rywioldeb.
Mae'n cynnwys camdriniaeth seicolegol, gorfforol, rhywiol, ariannol, emosiynol; trosedd ar sail 'anrhydedd'; Anffurfio organau cenhedlu benywaidd a phriodas dan orfodaeth.