Camdriniaeth ariannol
Mae cam-drin ariannol yn cynnwys dwyn, twyll, cam-fanteisio, pwysau mewn cysylltiad ag ewyllysiau, eiddo, etifeddiaeth neu drafodion ariannol, neu gamddefnyddio eiddo, meddiannau neu fudd-daliadau.
Dangosyddion posibl o gamdriniaeth ariannol
- Newidiadau sydyn mewn cyfrifon banc, symiau mawr o arian yn cael eu tynnu neu wariant credyd/debyd heb esboniad (yn enwedig lle nad oes tystiolaeth bod gwariant er budd yr oedolyn)
- Eiddo gwerthfawr yn diflannu heb esboniad
- Symiau gormodol o arian yn cael ei wario ar ofal yr oedolyn heb gynhyrchu budd amlwg
- Newidiadau sydyn i ewyllysiau, neu ewyllysiau’n cael eu creu’n sydyn
- Biliau heb eu talu, rhent a dyledion eraill yn cronni pan fydd rhywun arall yn gyfrifol am dalu'r biliau ar ran oedolyn sydd angen gofal a chymorth
- Diffyg darpariaethau, dillad ac eiddo eraill digonol y dylai'r person allu eu fforddio
- Pwysau gormodol a gorfodaeth mewn cysylltiad â gwariant ariannol
- Yr oedolyn sydd angen gofal a chymorth yn dweud wrthych ei fod yn cael ei gam-drin neu ei ecsbloetio'n ariannol
- Colli neu gamleoli dogfennau ariannol heb esboniad
- Ychwanegu llofnodwyr awdurdodedig yn sydyn ar gerdyn llofnod cleient neu roddwr
- Newidiadau sydyn neu annisgwyl mewn ewyllys neu ddogfennau ariannol eraill.