Mae'r dolenni isod yn amlinellu'r prif fathau o gamdriniaeth a all effeithio ar oedolion sydd angen gofal a chymorth. Mae pob dolen yn egluro rhai o'r arwyddion a allai ddangos bod oedolyn sydd angen gofal a chymorth yn cael ei gam-drin. Weithiau gall oedolyn brofi mwy nag un math o gamdriniaeth, er enghraifft, camdriniaeth ariannol a chamdriniaeth gorfforol. Neu, er enghraifft, gall unigolyn brofi camdriniaeth seicolegol o ganlyniad i gamdriniaeth gorfforol. Gall effaith ymddygiad camdriniol fod yn waeth pan fo cydbwysedd anghymesur o ran pŵer, er enghraifft, pan fydd oedolyn yn dibynnu ar berson arall sydd yn darparu ei ofal.