Clwb Diwylliant
Mae Clwb Diwylliant Age Cymru yn rhoi cyfleoedd i bobl dros 50 oed yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg fagu hyder, gwneud ffrindiau newydd, a mwynhau ein safleoedd diwylliannol niferus, gyda chymorth gwirfoddolwr cyfeillgar.
Ydych chi eisiau mynd am dro o gwmpas Caerdydd a'r Fro, ond hoffech chi gefnogaeth gan wyneb cyfarwydd?
Mae gwirfoddolwyr ein Clwb Diwylliant yn barod i fod yn gyfaill i chi.
- Byddwn yn eich paru â gwirfoddolwr sydd wedi'i hyfforddi'n llawn
- Byddwch yn derbyn galwad ffôn rhagarweiniol
- Dewch i gwrdd â'ch gwirfoddolwr cyfeillgar yn fisol mewn safleoedd diwylliannol ar draws y ddinas
Byddwch yn cyfarfod unwaith y mis i grwydro o gwmpas parciau lleol, amgueddfeydd neu galerïau.
Os oes gennych chi, neu rywun rydych chi’n nabod, ddiddordeb bod yn rhan o’r Clwb, cysylltwch â Kelly Barr neu ffoniwch 029 2043 1576.
Oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr ar gyfer y Clwb Diwylliant?
- Byddwch yn derbyn hyfforddiant llawn
- Byddwn yn eich paru â chyfranogwr am gyfarfod misol
- Telir treuliau teithio
- Byddwch yn derbyn credydau Amser Tempo am eich amser
Ewch i’n tudalen Gwirfoddolwyr i ddod o hyd i fwy o wybodaeth ac i ymgeisio.