Gwerthusiad gwirfoddoli cartrefi gofal
Cefnogi lles preswylwyr cartrefi gofal
Mae Age Cymru wedi cynnal cynlluniau gwirfoddoli prawf mewn cartrefi gofal yn y gorffennol, felly rydyn ni'n gwybod bod gwirfoddoli'n cael effaith gadarnhaol ar les preswylwyr cartrefi gofal, yn ogystal â staff, perthnasau a gwirfoddolwyr.
O fis Gorffennaf 2023 tan fis Mawrth 2024, gwnaethom recriwtio a hyfforddi gwirfoddolwyr ac yn eu sefydlu mewn cartrefi gofal. Roedd ein hymarferwyr celf yn cefnogi cartrefi gofal gyda'r gwaith o sefydlu gwirfoddolwyr a'u hyfforddi gan ddilyn dull Sut Wyt Ti?
Ochr yn ochr â hyn, gwnaethom werthuso effaith gwirfoddoli ar les preswylwyr, staff a gwirfoddolwyr. Roeddem yn ceisio deall beth sydd ei angen er mwyn gwneud yn siŵr bod gwirfoddoli'n gynaliadwy.
Gwyliwch ein fideo i glywed am brofiadau'r gwirfoddolwyr