Ein nod yw darparu gwasanaethau sy'n gwella bywyd a chymorth hanfodol i bobl yn hwyrach yn eu bywydau. Rydym ni a'n partneriaid lleol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau ledled Cymru.
Mae Age Cymru eisiau annog a chefnogi busnesau i adeiladu gweithleoedd sydd yn gyfeillgar i oedran lle gall gweithwyr hŷn ffynnu. Rydym wedi ffurfio partneriaeth â Busnes yn y Gymuned (Cymru) i gefnogi cyflogwyr drwy'r rhaglen Age at Work, wedi'i hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Mae gofalwyr hŷn yn rhan hanfodol o'n system iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac yn darparu gofal di-dâl sy'n werth miliynau o bunnoedd bob blwyddyn. Ond heb gymorth effeithiol, gall gofalwyr flino a mynd yn sâl.
Mae’r prosiect yn darparu cefnogaeth i bobl hŷn gan eu helpu i gymryd rhan a chysylltu gyda’u cymunedau lleol gyda chefnogaeth gwirfoddolwyr hyfforddedig.
Pobl hŷn sydd wrth wraidd popeth a wnawn. Am y rheswm hwn, datblygodd Age Cymru'r Fforwm Ymgynghorol i gynorthwyo a rhoi cyngor i’n Bwrdd Ymddiriedolwyr ar bolisi'r dyfodol.
Mae prosiect 360° yn brosiect partneriaeth arloesol dan arweiniad Age Cymru, yn gweithio gyda Woody's Lodge, ac aelodau Age Alliance Wales i gefnogi cyn-filwyr hŷn ledled Cymru.
Gallwch ddysgu mwy am ein rhaglenni iechyd a lles gan gynnwys gwybodaeth am gwympo, rhaglenni gweithgareddau corfforol a’n ymgyrch ar gyfer y Gaeaf, Lledaenu'r Cynhesrwydd.