Paratowch ar gyfer y gaeaf gydag Age Cymru a Nyth
Paratowch ar gyfer y gaeaf gydag Age Cymru a Nyth
Beth yw Paratoi ar gyfer y Gaeaf?
Mae Paratoi ar gyfer y Gaeaf yn ymgyrch dan arweiniad Age Cymru a chynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru i helpu pobl hŷn Cymru i baratoi ar gyfer y misoedd oerach o’u blaenau.
Mae'r cynnydd mewn biliau ynni a’r argyfwng costau byw yn golygu ei fod yn bwysicach nag erioed i wneud yr hyn sydd angen er mwyn cadw'ch cartref yn gynnes, a chadw’ch hun yn ddiogel yn ystod y gaeaf.
Gall hyn olygu nifer o bethau gwahanol, yn cynnwys: gwasanaethu eich boeler, gwneud ychydig o newidiadau i helpu i arbed ynni, bod yn ymwybodol o bwy sydd angen i chi gysylltu â nhw i gael cymorth ychwanegol. Beth bynnag sydd angen, mae yna sawl cam bach y gallwch eu cymryd i #BaratoiArGyferYGaeaf.
Sut all Age Cymru helpu?
Mae Cyngor Age Cymru wedi ymrwymo i fod y gwasanaeth gwybodaeth a chyngor mwyaf blaenllaw ar faterion sy'n effeithio ar bobl hŷn yng Nghymru. Rydym yn darparu gwybodaeth a chyngor cyfrinachol, diduedd ac arbenigol i bobl hŷn, eu teuluoedd, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol.
Ein gweledigaeth ni yw bod gan bob person hŷn yng Nghymru ddewis a rheolaeth dros eu bywydau eu hun gyda mynediad hawdd i'r wybodaeth a'r cyngor sydd ei angen i helpu i wireddu hynny.
Mwy o wybodaeth am beth mae Age Cymru'n ei wneud
Sut gall Nyth helpu?
Nod cynllun Nyth Cartrefi Cynnes Llywodraeth Cymru yw gwneud cartrefi'n gynhesach ac yn llefydd mwy ynni-effeithlon.
Mae Nyth yn cynnig ystod o gyngor diduedd am ddim ac, os ydych yn gymwys, pecyn o welliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim a all gynnwys boeler newydd, gwres canolog, insiwleiddio, neu baneli solar. Gall hyn ostwng eich biliau ynni a bod o fudd i'ch iechyd a'ch lles.
Mae miloedd o gartrefi yng Nghymru wedi cael gwelliannau effeithlonrwydd ynni cartref am ddim gan Nyth, gan helpu i leihau biliau ynni a chadw cartrefi'n gyfforddus trwy gydol y flwyddyn.
Ffoniwch 0808 808 2244 neu ewch i nyth.llyw.cymru i gael gwybod mwy.
Sut gallwch chi #BaratoiArGyferYGaeaf
Mae Age Cymru a Nyth yma i chi gyda chyngor a chefnogaeth am ddim ynglŷn â beth ddylech chi ei wneud i baratoi ar gyfer y misoedd oerach.
- Siaradwch â ni: gall ein timau cyngor siarad â chi yn Gymraeg neu yn Saesneg dros y ffôn, drwy e-bost a mwy.
- Rhannwch ein canllaw cadw’n gynnes dros y Gaeaf
- Rhannwch ein taflen wybodaeth am y Gaeaf
- Rhannwch ganllaw yn cynnwys cyngor gan Nyth ar gyfer arbed ynni <https://nest.gov.wales/wp-content/uploads/2022/05/Nest-Top-tips-for-saving-energy-May-2022_A4_ENG.pdf?dm_t=0,0,0,0,0>
- Mwy o wybodaeth am Ledaenu’r Cynhesrwydd
- Dysgwch am help gyda chostau byw
Gwiriwch a ydych yn gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn
Budd-dal ar gyfer pobl dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth yw Credyd Pensiwn. Mae'n cael ei ychwanegu at eich incwm os ydych chi'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
Os ydych yn gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn, gallech chi hefyd fod yn gymwys ar gyfer budd-daliadau eraill hefyd.
Mae'n werth gwirio a ydych yn gymwys, hyd yn oed os ydych chi wedi gwirio o'r blaen. Efallai bod eich amgylchiadau wedi newid, a allai olygu eich bod nawr yn gymwys i dderbyn Credyd Pensiwn hyd yn oed os nad oeddech chi'n flaenorol.
I wneud hawliad am Gredyd Pensiwn ffoniwch linell hawlio Credyd Pensiwn yr Adran Gwaith a Phensiynau yn uniongyrchol ar 0800 99 1234 neu ewch i www.gov.uk/pension-credit/how-to-claim . Gellir ei hawlio dros y ffôn ac ar-lein.
Mwy o wybodaeth am Gredyd Pensiwn