Aelodau'r bwrdd
Mae gan Age Cymru Fwrdd Ymddiriedolwyr er mwyn monitro amcanion strategol Age Cymru. Mae’r uwch-reolwyr yn gweithio’n agos gyda’r Ymddiriedolwyr er mwyn cynnal gwaith Age Cymru o ddydd i ddydd.
Cadeirydd - Yr Athro John Williams
Mae John yn Athro Emeritws yn y Gyfraith. Gwnaeth fwynhau gyrfa hir a nodedig ym Mhrifysgol Aberystwyth rhwng 1975 a 2018, gan ymchwilio'n bennaf i hawliau dynol pobl hŷn.
Yn ystod ei yrfa canolbwyntiodd yr Athro Williams ar effaith y gyfraith o ran pobl hŷn sy'n mynychu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Cynhaliodd ymchwil helaeth ar garcharorion hŷn, dyluniad cartrefi gofal, cyfraith ryngwladol a heneiddio, a cham-drin domestig a phobl hŷn.
Yn ogystal â hyn, rhoddodd yr athro gyngor i nifer o gyrff cenedlaethol gan gynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ddrafftio'r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, a rhoddodd gyngor i Bwyllgor Cynghori Diogelu Llywodraeth Cymru ar ganllawiau a rheoliadau diogelu.
Gofynnwyd am ei arbenigedd y tu allan i Gymru hefyd a daeth yn aelod o Gyfarfod Grŵp Arbenigol y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Dynol Pobl Hŷn, rhoddodd dystiolaeth i gydbwyllgor Tŷ'r Arglwyddi a Thŷ'r Cyffredin ar ddrafft y Bil Analluogrwydd Meddwl, a rhwng 2017 a 2020 roedd yn aelod o adolygiad statudol Comisiynydd Pobl Hŷn Gogledd Iwerddon o Gartref Gofal Dunmurry a sut y bu’n trin pobl hŷn.
Dirprwy Gadeirydd - Diane Hughes
Yn 2018, ymddeolodd Diane o'i swydd fel Rheolwr Caffael Corfforaethol a Chontractau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy lle bu'n gyfrifol am ddarparu contractio ar gyfer pob cyfarwyddiaeth o fewn yr awdurdod. Roedd y rôl yn cynnwys darparu'r arweinydd rhanbarthol ar gyfer gweithgarwch caffael mewn addysg a gofal cymdeithasol, darparu fframwaith cynhwysfawr i'r awdurdod ar drafodaethau ffioedd allweddol gyda darparwyr gwasanaethau.
Cydymffurfio â'r fframweithiau deddfwriaethol perthnasol, gweithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys cynghori cydweithwyr ar faterion comisiynu a chontractio arbenigol ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol, tai, rheoleiddio a diogelu'r cyhoedd. Datblygu dealltwriaeth dda o'r sector gofal, gan gynnwys dadansoddiad o'r farchnad a risg i ddarparwyr gwasanaethau mewnol ac allanol.
Bydd bod yn rhan o feysydd cyfrifoldeb allweddol yn ei rôl cyn ymddeol yn galluogi Diane i gefnogi gwaith yr elusen ac mae'n awyddus i helpu i ddatblygu, ehangu a hyrwyddo presenoldeb a dylanwad yr Elusen yng Ngogledd Cymru. Mae gan Diane ystod o brofiad gwirfoddol.
Trysorydd - Jack Mansfield
Cyfrifydd Siartredig (FCA) yw Jack sydd â phrofiad helaeth a hanes llwyddiannus yn y sectorau preifat, cyhoeddus a dielw. Roedd yn brif gyfarwyddwr bwrdd gyda Thŷ'r Cwmnïau rhwng 1992 a 2017 lle bu'n gyfrifol am arweinyddiaeth strategol cyllid y sefydliad, TG, caffael, rheoli eiddo. Cynyddodd gynhyrchiant ac allbwn sefydliadol trwy fuddsoddi mewn gwasanaethau digidol a systemau adrodd, datblygiad proffesiynol ac amlsgilio timau a gweithiodd er mwyn herio materion sy'n ymwneud ag amrywiaeth mewn gweithle amlddiwylliannol.
Mae gan Jack brofiad fel Cyfarwyddwr Anweithredol gyda chwmni ailgylchu gwastraff sy'n eiddo i'r awdurdod lleol mwyaf yng Nghymru. Yn ddiweddar fe'i penodwyd i Fwrdd Hafan Cymru (elusen sydd yn helpu pobl sy'n dianc rhag camdriniaeth ddomestig ac sy’n ceisio adennill eu hannibyniaeth). Yn flaenorol, mae Jack wedi gwirfoddoli fel Trysorydd Anrhydeddus gyda Chymdeithas MS leol ac mae’n gwirfoddoli gydag Oasis Caerdydd (darparwr Cymorth i Ffoaduriaid) ac mae'n dysgu mathemateg (clwb gwaith cartref) gydag All Communities Equal (ACE) Caerdydd.
Catrin Davies
Cafodd Catrin ei magu yng Ngheredigion ac mae'n siarad Cymraeg yn rhugl. Ar ôl graddio, treuliodd gyfnod byr yn dysgu'r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, lle enillodd ei PhD hefyd.
Symudodd Catrin i Gaerdydd i weithio fel cyfieithydd yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a gafodd ei sefydlu yn 1999. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach ymunodd â Llywodraeth Cymru ac mae wedi gweithio mewn rolau amrywiol yn y gwasanaeth sifil, gan arwain prosiectau polisi a deddfwriaethol ar draws ystod o feysydd portffolio, gan gynnwys mewn meysydd sy'n ymwneud â mynd i’r afael a thlodi, gwasanaethau cynghori, blynyddoedd cynnar a gofal plant, a thai ar gyfer poblogaeth sy'n heneiddio. Mae hi'n arbennig o hoff o weithio gyda rhanddeiliaid allanol yng Nghymru i ddeall effaith polisïau'r llywodraeth ganolog ar bobl, busnesau a gwasanaethau.
Mae Catrin yn cael ei gyrru gan ei hangerdd i wneud gwahaniaeth ac i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn teimlo bod ganddyn nhw le a phwrpas yn y wlad rydyn ni'n byw ynddi heddiw.
Charles Carter
Yn 2017, ymddeolodd Charles fel Cyfarwyddwr Rhanbarthau, Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yng Nghymru a Lloegr, lle'r oedd yn aelod o Uwch Dîm Rheoli'r Sefydliad. Cyn hynny, bu Charles yn gweithio i Age Concern Lloegr fel cyfarwyddwr y Ganolfan Hirhoedledd Rhyngwladol a Chyfarwyddwr Dadl yr Oes yn dilyn gyrfa hir yn y lluoedd.
Cyn symud i Sir Benfro, roedd Charles yn Ymddiriedolwr a Chyfarwyddwr Age Concern yn ardal Salisbury ac mae ganddo sawl penodiad arall gan gynnwys Ymddiriedolwr Cymdeithas Gatrodol a dwy amgueddfa gatrodol.
Eleanor Sanders
Mae gan Eleanor mwy na deng mlynedd ar hugain o brofiad o weithio yn y sector cyhoeddus o fewn y GIG a Llywodraeth Cymru. Gweithiodd fel nyrs gofrestredig mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol, a gweithiodd gyda nifer o fentrau er mwyn gwella gwasanaethau ledled Cymru. Cyfunodd y wybodaeth glinigol a'r sgiliau arweinyddiaeth hynny yn adran iechyd Llywodraeth Cymru. Mae gweithio gyda’r llywodraeth wedi cyfrannu at ei hawydd i ddylanwadu ar y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn lleol ac yn genedlaethol.
Mae ganddi brofiad helaeth o fewn y trydydd sector, yn enwedig ar lefel bwrdd elusennol gan gynnwys pum mlynedd fel Cadeirydd Ymddiriedolwyr Banc Bwyd Caerdydd. Drwy’r gwaith hwn mae hi wedi dod yn gyfarwydd â sefydliadau o'r fath, gan gydbwyso'r galw cynyddol gyda’r gallu i ddarparu gwasanaethau’n effeithiol er gwaethaf pwysau ariannol.
Fel Cynghorydd Lleol Annibynnol etholedig sy'n cynrychioli ei chymuned leol yng Nghaerdydd, gwelodd Eleanor lawer o'r problemau sy'n wynebu pobl hŷn, gan gynrychioli nifer ohonynt i fynd i'r afael â llawer o'r anghenion a nodwyd a'u goresgyn. Mae hi'n parhau i fod yn rhan o'i chymuned leol gan gynnwys cadeirio'r pwyllgor trefnu sy'n cynnal gwyliau haf a gaeaf llwyddiannus iawn.
Ar hyn o bryd mae Eleanor yn eiriolwr gwirfoddol annibynnol gyda phrosiect HOPE Age Cymru. Mae hi'n defnyddio ei phrofiad o gefnogi sawl aelod hŷn o'r teulu i fynychu’r gwasanaethau yr oedd eu hangen arnynt wrth i'w hanghenion gynyddu, yn ogystal â'i gwybodaeth am ddarpariaeth leol, yn enwedig yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol.
Karen Heenan-Davies
Mae gan Karen Heenan-Davies dros 30 mlynedd o brofiad fel rheolwr cysylltiadau cyhoeddus a chyfathrebu marchnata, gan ddechrau ei gyrfa fel newyddiadurwraig gyda phapurau newydd yn ne Cymru. Mewn swyddi dilynol bu'n rheoli cysylltiadau cyhoeddus ar gyfer tri awdurdod lleol a choleg addysg uwch yng Nghymru. Yn 1997 ymunodd â chwmni cemegol rhyngwladol lle bu'n arwain cysylltiadau cyfryngau, hysbysebu a brandio yn Ewrop ac Asia a gwasanaethodd ar sawl bwrdd busnes. Ar ôl ymddeol bu'n gwasanaethu fel ymddiriedolwr i Groundwork Wales am dair blynedd. Mae Karen yn arweinydd gwirfoddol ar gyfer rhaglen gerdded Nordig Age Cymru ym Mro Morgannwg.
Maria Coggins
Mae Maria yn gyfreithwraig fasnachol gydag arbenigeddau deuol mewn gwaith cyfreithiol masnachol cyffredinol ac ailstrwythuro corfforaethol. Mae'n darparu hyfforddiant i gleientiaid ar reoli risg cyfreithiol effeithiol ac yn cynghori ar strategaeth risg a sut i leihau risg a sicrhau cydymffurfiaeth yn eu busnesau. Yn ogystal â gweithio ar gyfer cleientiaid, mae'n gweithredu fel Dirprwy COLP gan ddarparu cefnogaeth i'r Partner Rheoli yn ei rôl fel y Swyddog Cydymffurfio ar gyfer Ymarfer Cyfreithiol ("COLP").
Steve Milsom
Roedd Steve Milsom, uwch was sifil sydd wedi ymddeol, yn Ddirprwy Gyfarwyddwr a Phennaeth Polisi Gwasanaethau Cymdeithasol i Oedolion yn Llywodraeth Cymru pan ymddeolodd ym mis Hydref 2013. Mae ganddo brofiad helaeth o ddatblygu polisi a deddfwriaeth ar gyfer gofal cymdeithasol a phobl hŷn. Mae gan Steve MSc mewn Astudiaethau Heneiddio (Prifysgol Abertawe 2012).
Ers ymddeol, mae Steve wedi bod yn Ymgynghorydd Gofal Cymdeithasol hunangyflogedig sy'n gweithio gyda Practice Solutions Ltd, yn ymgymryd ag amrywiaeth o brosiectau gyda Chynghorau sy'n gwella gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer pobl hŷn. Mae hefyd wedi bod yn aelod o Grŵp Cynghori’r Comisiynydd Pobl Hŷn ac yn weithiwr maes ar gyfer ei Hadolygiad o Gartrefi Gofal (2014). Cynhaliodd werthusiad hefyd o Raglen Gyfoethogi sy'n gweithredu ar draws chwe chartref gofal yng Nghymru (2014). Yn 2016, penodwyd Steve am bedair blynedd i Bwyllgor Archwilio Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. Mae'n Aelod o Banel Arbenigol y Comisiynydd ar Hawliau Dynol i Bobl Hŷn. Steve yw Is-gadeirydd Fforwm 50+ Caerffili ac mae’n Ymddiriedolwr Cynghrair Pobl Hŷn Cymru. Mae'n Aelod o Fforwm Cynghori Gweinidogol Llywodraeth Cymru ar Heneiddio. Mae Steve yn briod gyda 2 fab a 2 wyres ac mae’n gefnogwr pêl-droed brwd (Clwb Pêl-droed Caerdydd)