Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Oedran
Os yw rhagoriaeth gwasanaeth cwsmeriaid yn ganolog i'ch busnes, pa mor dda ydych chi'n deall anghenion pobl hŷn?
Bydd hyfforddiant ymwybyddiaeth oedran Age Cymru yn gwella dealltwriaeth a sgiliau eich staff gwasanaeth cwsmeriaid, gan wella ansawdd y gwasanaeth cwsmeriaid a ddarperir i gwsmeriaid hŷn, gan sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod eu hanghenion yn cael eu diwallu'n effeithiol.
Gyda'r hyfforddiant hwn, bydd staff gwasanaethau cwsmeriaid yn:
- Chwalu stereoteipiau oedran
- Deall yr heriau sy'n wynebu pobl hŷn
- Deall sut i ddarparu gwell gwasanaeth cwsmeriaid i bobl hŷn
- Defnyddio syniadau ymarferol i wreiddio'r gwasanaeth gwell hwn i gwsmeriaid gan sicrhau bod pobl hŷn yn cael y profiad gorau wrth dderbyn cefnogaeth gan y sefydliad.
Cost sesiwn 2.5 awr:
- Ar-lein £350 + TAW
- Wyneb yn wyneb £475 + TAW
Cysylltwch â policy@agecymru.org.uk neu ffoniwch 0300 303 44 98.
Gellir addasu ein hyfforddiant yn dibynnu ar anghenion sefydliadol, gan gynnwys darparu sesiwn ymwybyddiaeth oedran gyffredinol. Cysylltwch â ni i drafod.